YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 21

21
SALM 21
Duw’n llwyddo’r brenin
Tal-y-llyn 76.76.D
1-3O Arglwydd, llawenycha
Y brenin yn dy nerth;
Mae’n gorfoleddu oblegid
D’achubiaeth fawr ei gwerth.
Rhoist iddo heb wrthodiad
Ei bob deisyfiad taer.
Doist ato â bendithion;
Rhoist iddo goron aur.
4-6Am fywyd y gofynnodd:
Fe’i cafodd gennyt ti;
A chafodd drwy d’achubiaeth
Ogoniant, clod a bri.
Yr wyt yn rhoddi iddo
Dros byth fendithion llawn,
A’th bresenoldeb hyfryd
A’i gwna yn llawen iawn.
7-10Mae’r brenin yn ymddiried
Yn nerth yr Arglwydd Dduw;
Ac am fod Duw yn ffyddlon
Bydd ddiogel tra bo byw.
Cei afael yn d’elynion
A’r rhai sy’n dy gasáu,
A’u gwneud fel ffwrnais danllyd,
A’r tân yn eu hamgáu.
11-13Dinistri eu hepil hefyd
O blith plant dynol ryw.
Bwriadent ddrwg i’th erbyn,
Heb lwyddo. Ffônt rhag Dduw.
Aneli at eu hwynebau
Dy fwa a’th saethau llym.
Cod, Arglwydd, yn dy gryfder!
Cawn ganu am dy rym!

Currently Selected:

Salmau 21: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in