YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 22

22
SALM 22
I’r Arglwydd y perthyn brenhiniaeth
Eventide 10.10.10.10
1-2Fy Nuw, fy Nuw, pam y’m gadewaist i?
Pam cadw draw oddi wrth holl eiriau ’nghri?
Rwy’n gweiddi arnat ddydd a nos bob awr,
Ond nid atebi fi’n fy mlinder mawr.
3-5Ond fe’th orseddwyd di, y Sanctaidd Un,
Yn foliant Israel. Ynot ti dy hun
Yr ymddiriedai’n tadau dan eu clwy:
Achubwyd ac ni chywilyddiwyd hwy.
6-8Pryf ydwyf fi. Nid ydwyf neb. Rwy’n wawd.
Mae pawb a’m gwêl yn wfftio at fy ffawd,
Gan ddweud, “Fe roes ei achos i Dduw’r nef,
A chan fod Duw’n ei hoffi, achubed ef”.
9-11Ond ti o groth fy mam a’m tynnodd i;
Fe’m bwriwyd ar fy ngeni arnat ti.
Paid â phellhau oddi wrthyf, cans nid oes
Neb a rydd gymorth im yn nydd fy loes.
12-14aAmdanaf mae gwŷr cryfion wedi cau,
Fel teirw Basan. Llewod ŷnt mewn ffau
Yn rheibio a rhuo, ac y mae eu stŵr
Yn gwasgu’r nerth o’m corff, fel tywallt dŵr.
14b-15aDatododd fy holl esgyrn, ac fe lwyr
Doddodd fy nghalon, fel pe bai yn gwyr
Mae ’ngheg yn sych fel cragen ar y stryd,
A glŷn fy nhafod yn fy ngenau mud.
15b-17aFe’m bwriaist i lwch angau. Y mae cŵn
O’m cylch, dihirod brwnt yn cadw sŵn.
Tyllant fy nhraed a’m dwylo â’u gwayw dur,
A gallaf gyfrif f’esgyrn yn fy nghur.
17b-19Dan rythu arnaf, rhannant yn eu mysg
Fy nillad. Bwriant goelbren ar fy ngwisg.
Ond ti, O Arglwydd, paid â sefyll draw;
O brysia, rho im gymorth nerth dy law.
20-22Gwared fy unig fywyd rhag y cledd,
Rhag cyrn y teirw, a rhag safn y bedd.
Ac fe gyhoeddaf d’enw i’m brodyr i,
Ac yn y gynulleidfa molaf di.
23-24Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd Dduw.
Blant Israel, parchwch ef; trugarog yw.
Heb guddio’i wyneb, clywodd lef y sawl
Y sarnodd y gorthrymwr ar ei hawl.
25-26Fe’i molaf yn y gynulleidfa gref.
Cadwaf fy llw yng ngŵydd ei bobl ef.
Digonir yr anghenus, a bydd byw
Am byth galonnau’r rhai sy’n moli Duw.
27-28Daw’n ôl at Dduw holl gyrrau eitha’r byd,
Ymgryma’r holl genhedloedd iddo ynghyd,
Cans iddo y perthyn y frenhiniaeth fawr,
Ac ef sy’n llywodraethu teulu’r llawr.
29-31Sut gall y meirw’i foli yn Sheol?
Ond byddaf fi fyw iddo, a’m plant ar f’ôl.
Sonnir am Dduw wrth genedlaethau i ddod.
Bydd pobl nas ganwyd eto’n traethu’i glod.

Currently Selected:

Salmau 22: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 22