YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 27

27
SALM 27
Hyder yn Nuw
Lobe den Herren 14.14.4.7.8
1-2Duw yw f’achubiaeth a’m golau, rhag pwy byth yr ofnaf?
Ef yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
Pan ddaw’r di-dduw
Fel pe i’m llyncu yn fyw,
Baglant wrth ruthro amdanaf.
3-4aPe deuai byddin i’m herbyn, ni fyddwn yn ofnus.
Pe deuai rhyfel i’m rhan, mi a fyddwn hyderus.
Un peth gan Dduw
A geisiais i, sef cael byw
Byth yn ei dŷ tangnefeddus.
4b-5Yno cawn edrych am byth ar hawddgarwch yr Arglwydd,
A gofyn iddo am gyngor, cans yn nydd enbydrwydd
Fe’m cyfyd i
Ar graig o afael y lli.
Cuddia fi ym mhabell ei sicrwydd.
6Cyfyd fy mhen i uwchlaw fy ngelynion yn ebrwydd.
Offrymaf finnau’n ei deml aberthau hapusrwydd.
Llawen fy llef
Pan blygaf ger ei fron ef.
Canaf, canmolaf yr Arglwydd.
7-9Gwrando fi, Arglwydd, pan lefaf, a dyro im ateb;
Canys dywedais amdanat ti, “Ceisia ei wyneb”.
Fe fuost ti
O Dduw’n waredwr i mi.
Paid â throi i ffwrdd mewn gwylltineb.
10-12Derbyniai Duw fi hyd yn oed pe bai fy rhieni
Yn cefnu arnaf. O Arglwydd, dysg di dy ffordd imi.
I’r llwybr da
Arwain fi, canys fe wna
Fy ngelyn imi gamwri.
13-14Caf weld daioni yr Arglwydd, mi wn hyn i sicrwydd,
Yn nhir y byw. Disgwyl dithau wrth Dduw a’i berffeithrwydd.
Disgwyl, a bydd
Wrol dy galon mewn ffydd.
A disgwyl di wrth yr Arglwydd.

Currently Selected:

Salmau 27: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 27