YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 35

35
SALM 35
O Arglwydd, dadlau drosof
Meirionnydd 76.76.D
1-4O Arglwydd, dadlau drosof
Ac ymladd ar fy rhan
Yn erbyn fy ngelynion,
A helpa fi; rwy’n wan.
Tyn waywffon a phicell
At bawb a bair im glwy,
A dweud, “Fi yw d’achubiaeth”,
A chywilyddia hwy.
5-8Dihangant rhagot, Arglwydd,
Fel us o flaen y gwynt;
A’th angel yn eu hymlid
Fe lithrant ar eu hynt.
Taenasant rwyd dros bydew
Er mwyn fy maglu i,
Ond dalier hwy eu hunain
A’u difa ynddi hi.
9-10Ond llawenhaf fi ynot
Ac yn d’achubiaeth di,
A gwaedda fy holl esgyrn,
“Pwy sydd fel f’Arglwydd i,
Yn achub cam y tlodion
Rhag cryfion cas y byd,
A gwared rhag ysbeilwyr
Y gweiniaid oll i gyd?”
11-14Daeth tystion yn fy erbyn
 chyhuddiadau ffug;
Gwnânt ddrwg am dda a wneuthum:
Bûm i a’m pen ymhlyg
Mewn gweddi ac ympryd drostynt
Pan oeddent glaf a thlawd,
Fel pe dros gyfaill imi
Neu dros fy mam neu ’mrawd.
15-17Ond roeddent hwy yn llawen
Y dydd y cwympais i:
Poenydwyr nas adwaenwn
Yn fy enllibio’n ffri.
Pan gloffais i, fe’m gwawdient,
(O Arglwydd, am ba hyd?)
Tyrd, gwared rhag anffyddwyr
Fy unig fywyd drud.
18-20Diolchaf it bryd hynny
Gerbron y dyrfa fawr;
Ond na foed i’m gelynion
Gael llawenhau yn awr.
Ni soniant ddim am heddwch,
Dim ond cynllwynio brad
Yn erbyn pobl gyfiawn,
Preswylwyr distaw’r wlad.
21-24Siaradant yn fy erbyn
Gan ddweud, “Aha, aha,
Fe welsom ni â’n llygaid ...!”
O Arglwydd, na phellha!
Rho ddedfryd ar fy achos
Yn ôl d’uniondeb di;
Na ro lawenydd iddynt
Yn fy anghysur i.
25-27aAc na foed iddynt frolio,
“Fe’i llyncwyd gennym ni”.
Doed gwarth i bawb sy’n llawen
Oblegid f’adfyd i;
Ond boed i’r rhai sydd eisiau
Cael gweld fy nghyfiawnhau
Gael gorfoleddu o’m plegid
A chanu a llawenhau.
27b-28Boed iddynt ddweud yn wastad,
“Mawr yw yr Arglwydd Dduw
Sydd yn dymuno llwyddiant
Ei was, a’i gadw’n fyw”.
Ac yna, Dduw trugarog,
Fy nhafod i a fydd
Yn datgan dy gyfiawnder
A’th foli ar hyd y dydd.

Currently Selected:

Salmau 35: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 35