YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 36

36
SALM 36
Goleuni i ni yng ngoleuni Duw
Sarah MB
1-2aLlefara pechod byth
Wrth bob drygionus un.
Does ar ei gyfyl ddim ofn Duw,
A llwydda i’w dwyllo’i hun.
2b-4Mae’i eiriau oll yn dwyll;
Gedy ddaioni ar ôl;
Cynllunia yn ei wely ddrwg
Yn ffyrdd troseddwyr ffôl.
5Ond dy ffyddlondeb di
A’th gariad, Arglwydd, sy’n
Ymestyn hyd gymylau’r nen
A hyd y nef ei hun.
6Mae dy gyfiawnder fel
Mynyddoedd tal, O Dduw,
A’th farnau fel y dyfnder mawr.
Fe gedwi bopeth byw.
7-8Llochesa pobl dan
Gysgod d’adenydd clyd;
O gysur d’afon, moeth dy dŷ
Digonir hwy o hyd.
9Cans y mae ffynnon lân
Pob bywyd gyda thi,
Ac yn d’oleuni di, fy Nuw,
Y daw goleuni i ni.
10At bawb a’th adwaen di
Dy gariad a barha;
A phery dy gyfiawnder at
Y rhai sy â chalon dda.
11-12Na syfled troed neb balch
Na llaw neb drwg fi’n awr.
A dyna y gwneuthurwyr drwg
Oll wedi eu bwrw i’r llawr!

Currently Selected:

Salmau 36: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in