YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 44

44
SALM 44
Cwyn cenedl orchfygedig
Whitford 76.76.D
1-2Fe glywsom gan ein tadau,
O Arglwydd, am y gwaith
A wnaethost yn eu dyddiau
Dros y blynyddoedd maith.
Fe droist genhedloedd allan,
Ond eto’u plannu hwy.
Difethaist bobloedd lawer,
Ond llwyddo’n tadau’n fwy.
3-4aOherwydd nid â’u cleddyf
Y cawsant hwy y tir,
Ac nid â’u braich y cawsant
Y fuddugoliaeth wir,
Ond trwy nerth dy ddeheulaw
A llewyrch d’wyneb di,
Am dy fod yn eu hoffi,
Fy Nuw a’m brenin i.
4b-7Ti sy’n rhoi buddugoliaeth
I Jacob, trwot ti
Y sathrwn a darostwng
Ein holl elynion ni.
Nid ymddiriedaf bellach
Mewn cleddau na bwâu,
Cans ti a gywilyddiaist
Y rhai sy’n ein casáu.
8-10Yn Nuw y bu ein hymffrost.
Clodforwn d’enw mawr;
Ond yr wyt wedi’n gwrthod,
Ac nid ei di yn awr
I ymladd gyda’n byddin,
Ond gwnei i ni lesgáu,
Ac fe’n hysbeilir bellach
Gan rai sy’n ein casáu.
11-14Fe’n lleddaist megis defaid,
A’n gwasgar ledled byd.
Fe’n gwerthaist ni heb elw,
A’n gwneud ni’n warth i gyd,
Yn destun gwawd a dirmyg
Pob cenedl is y nen.
Fe’n gwnaethost yn ddihareb,
A’r bobl yn ysgwyd pen.
15-16Fe’m cuddiwyd mewn cywilydd
A gwarth oherwydd sen
Y gelyn a’r dialydd
Yn seinio yn fy mhen.
A hyn i gyd ddaeth arnom
Er nad anghofiwn ni
Mohonot, na bradychu
Dy lân gyfamod di.
17-21Ni throesom chwaith o’th lwybrau
I beri iti’n awr
Ein sigo yn lle’r siacalau
A’n cuddio â chaddug mawr.
Ped anghofiasem d’enw
A throi at dduw di-fydd,
Fe fyddit ti yn gwybod.
Does dim i ti yn gudd.
22-26Ond er dy fwyn fe’n lleddir
Fel defaid drwy y dydd.
Ymysgwyd, pam y cysgi,
A’th wyneb teg ynghudd?
I’r llwch yr ymostyngwn,
Fe’n bwriwyd ni i’r llawr.
O cod i’n cynorthwyo,
Er mwyn dy gariad mawr.

Currently Selected:

Salmau 44: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 44