YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 48

48
SALM 48
Dinas Duw
Lobe den Herren 14.14.4.7.8
1-3Teilwng yw’r Arglwydd o fawl yn ei fynydd cyfannedd,
Yn Seion, dinas ein Duw, ar lechweddau y Gogledd.
Dinas yw hon
Sy’n llawenhau’r ddaear gron,
A Duw’n amddiffyn ei mawredd.
4-7Pan ymgynullodd brenhinoedd, a gweld, fe’u brawychwyd;
Daeth gwewyr, fel gwewyr esgor, i’w llethu, ac arswyd.
Megis pan fo
Holl longau Tarsis ar ffo
Rhag y dwyreinwynt, fe’u drylliwyd.
8-9Cawsom weld popeth a glywsom am Arglwydd y Lluoedd
Yn ninas Duw, a gynhelir gan Dduw yn oes oesoedd.
Yn dy deml, Dduw,
Fe bortreasom yn fyw
Ddrama dy gariad i’r bobloedd.
10-11Fel mae dy enw, O Dduw, mae dy fawl yn ymestyn
Hyd eitha’r ddaear. O’th law mae cyfiawnder yn disgyn.
Boed lawen fryd
Seion a Jwda i gyd
Am iti gosbi y gelyn.
12-14Teithiwch o gwmpas Jerwsalem, rhifwch ei thyrau,
Ewch trwy ei chaerau, a sylwch ar gryfder ei muriau,
A dweud yng nghlyw
Yr oes sy’n dod, “Dyma Dduw!
Fe’n harwain ni drwy’r holl oesau”.

Currently Selected:

Salmau 48: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 48