YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 55

55
SALM 55
Bwrw dy faich ar yr Arglwydd
Morning has broken 10.9.10.9
1-3Paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad,
Gwrando fi, Arglwydd, ateb fy nghri.
Rwyf bron â drysu gan sŵn y gelyn
Sydd yn pentyrru drwg arnaf fi.
4-8Yn f’ofn dywedais, “O na bai gennyf
Esgyll colomen; hedwn ar hynt:
Crwydro i’r anial, ac aros yno,
A cheisio cysgod rhag brath y gwynt”.
9-11O Dduw, cymysga’u hiaith, canys gwelais
Drais yn y ddinas fore a hwyr;
Twyll sy’n ei marchnad, ac mae drygioni
Wedi amgylchu’i muriau yn llwyr.
12-14Gallwn ddygymod â gwawd y gelyn,
Ond ti, fy ffrind – fe aeth hynny i’r byw!
A ninnau’n gymaint ffrindiau â’n gilydd,
Ac yn cydgerdded gynt i dŷ Dduw.
15-19Aed y drygionus i boenau Sheol;
Ond gwaeddaf fi bob amser ar Dduw,
A bydd yr Arglwydd da yn fy achub
Ac yn fy nwyn o’r rhyfel yn fyw.
20-21Ond fy nghydymaith, fe dorrodd hwnnw
Air ei gyfamod â’i weniaith goeth.
Yr oedd ei eiriau’n llyfnach nag olew,
Ond roeddent hefyd yn gleddau noeth.
22-23Bwrw dy faich ar Dduw ar ei orsedd.
Ti, Dduw y cyfiawn, a’m cynnal i.
Bwria’r gwŷr gwaedlyd i’r pydew isaf;
Ond ymddiriedaf fi ynot ti.

Currently Selected:

Salmau 55: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in