YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 56

56
SALM 56
Duw o’m tu
Abbot’s Leigh 87.87 D
1-4Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd.
Mae ’ngelynion i yn llu
Yn ymosod arnaf beunydd
A’m gorthrymu ar bob tu.
Cod fi i fyny yn nydd fy arswyd;
Rwy’n ymddiried ynot ti.
Molaf d’air, heb ofni rhagor.
Beth all neb ei wneud i mi?
5-9Maent o hyd yn stumio ’ngeiriau;
Ceisiant imi niwed mwy.
Tâl di iddynt am eu trosedd;
Yn dy ddig, darostwng hwy.
Rhoist fy nagrau yn dy gostrel,
F’ocheneidiau yn dy sgrôl.
Yn y dydd y galwaf arnat
Troir fy ngelyn yn ei ôl.
10-13Hyn a wn, fod Duw o’m hochr.
Molaf d’air, ac ynot ti
Ymddiriedaf byth heb ofni.
Beth all neb ei wneud i mi?
Talaf f’addunedau gydag
Ebyrth diolch iti, Dduw,
Cans fe’m dygaist o byrth angau
I oleuni tir y byw.

Currently Selected:

Salmau 56: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in