YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 57

57
SALM 57
O Arglwydd, cod uwch y nefoedd
Down Ampney 6.6.11 D
1-3aO Arglwydd, dangos di
Drugaredd ataf fi,
Oherwydd ynot ti yr wy’n llochesu.
Mi alwaf ar fy Nuw,
Fy amddiffynnwr yw,
Ac enfyn ef o’r nefoedd i’m gwaredu.
3b-4Fe gywilyddia’n fawr
Y rhai a’m bwrw i lawr,
Ac anfon im ei gariad a’i wirionedd.
Rwy’n byw yng nghanol gwŷr
Y mae eu tafod dur
Yn gleddyf llym, a saethau yw eu dannedd.
5-6O Arglwydd, cod yn awr
Yn uwch na’r nefoedd fawr,
A bydded dy ogoniant dros y ddaear.
Cloddiasant bwll o’m blaen,
A rhwydau drosto ar daen,
Ond hwy a gaiff eu dal, y rhai ystrywgar.
7-9Ond teyrngar wyf, O Dduw,
A’m calon, cadarn yw.
O deffro, f’enaid; deffro di, fy nhelyn.
Diolchaf gyda’r wawr,
A’th ganmol, Arglwydd mawr,
Ymhlith cenhedloedd daear yn ddiderfyn.
10-11Mae dy ffyddlondeb hyd
Gymylau’r nen i gyd,
A hyd y nef dy gariad, sy’n ddigymar.
O Arglwydd, cod yn awr
Yn uwch na’r nefoedd fawr,
A bydded dy ogoniant dros y ddaear.

Currently Selected:

Salmau 57: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in