YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 58

58
SALM 58
Melltith ar y drygionus
Elliot 98.98 D
1-5Chwi dduwiau, a ydych mewn difrif
Yn barnu yn gyfiawn o hyd?
O na! Fe ddyfeisiwch gelwyddau,
A gwasgar eich trais dros y byd.
Anufudd o’r groth yw’r drygionus,
Gwenwynllyd fel sarff yw y rhain,
Fel gwiber a gaodd ei chlustiau
Rhag clywed y swynwr a’i sain.
6-9O Dduw, dryllia’u dannedd; diwreiddia
Gilddannedd y llewod, ac aed
Y cyfan fel dŵr, a diflannu,
A chrino fel gwellt o dan draed.
Fe fyddant fel marw-anedig
Na wêl olau dydd, ac fe fyn
Ein Duw eu diwreiddio yn ebrwydd,
A’u sgubo hwy ymaith fel chwyn.
10-11Bryd hynny, bydd lawen y cyfiawn
Oherwydd y dial a wnaed.
Yng ngwaed y drygionus, o’r diwedd,
Fe’i gwelir yn golchi ei draed.
A dywed pawb oll, “Oes, yn bendant,
Mae gwobr i’r cyfiawn o hyd;
Ac oes, y mae Duw sydd yn barnu
Yn gyfiawn y ddaear i gyd.”

Currently Selected:

Salmau 58: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in