YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 60

60
SALM 60
Penarglwyddiaeth Duw
Guiting Power 85.85.7.8
1-2Cosbaist ni, O Dduw, a’n bylchu,
Digiaist wrthym ni.
Gwnaethost i’r holl ddaear grynu,
Ac fe’i holltaist hi.
Simsan dan ei chlwyfau yw;
Iachâ ei briw, ac achub hi.
3-5Gwnaethost inni yfed wermod,
Meddwaist ni â gwin.
Ond fe roist i’r ffyddlon gysgod
Rhag y bwa blin.
Er mwyn gwared d’annwyl rai,
O maddau’n bai, ac ateb ni.
6-7aFe lefarodd y Goruchaf:
“Af i fyny’n awr;
Dyffryn Succoth a fesuraf,
Rhannaf Sichem fawr.
Mae Gilead, led a hyd,
Manasse i gyd yn eiddo i mi.
7b-8Effraim yw fy helm, a Jwda
Fy nheyrnwialen wir.
Moab ydyw fy ymolchfa,
A thros Edom dir
Taflaf f’esgid. Caf foddhad
Yn erbyn gwlad Philistia i gyd”.
9-12Pwy a’m dwg i’r ddinas gaerog?
Pwy, O Dduw, ond ti?
Er it wrthod ein llu arfog,
Rho dy help i ni.
Gwnawn wrhydri gyda Duw,
Cans ofer yw ymwared dyn.

Currently Selected:

Salmau 60: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in