YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 62

62
SALM 62
Nid oes neb pwerus ond Duw
Maccabeus 10.11.11.11 a chytgan
3Pa hyd yr ymosodwch nes bod dyn
Fel pe bai’n dadfeilio ynddo ef ei hun,
4Twyllo a chynllwynio i’w iselhau o hyd,
Bendith yn eich genau, melltith yn eich bryd?
1-2Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
7Mae fy anrhydedd yn dibynnu ar Dduw;
Amddiffynfa imi, fy nghadernid yw.
8Bobl, ymddiriedwch ynddo ef o hyd;
Dewch â’ch cwynion ato; ef yw’ch noddfa glyd.
1-2Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
9Nid yw dynolryw’n ddim ond anadl frau;
Nid yw teulu dyn ond rhith nad yw’n parhau.
Pan roir hwy mewn clorian, codi a wnânt yn chwim,
Nid oes pwysau iddynt, maent yn llai na dim.
1-2Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
5-6Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.
10Na rowch eich ffydd yn ofer bethau’r byd;
Os cynydda cyfoeth, na rowch arno’ch bryd.
11Nid oes neb pwerus, neb ond Duw ei hun,
12Ac wrth ei weithredoedd y mae’n talu i ddyn.
1-2Ynot, fy Nuw, yr ymddiriedaf fi;
5-6Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.

Currently Selected:

Salmau 62: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in