YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 63

63
SALM 63
Sychedu am Dduw
Ellers 10.10.10.10
1-2O Dduw, ti yw fy Nuw; amdanat ti,
Fel sychdir cras am ddŵr, sychedaf fi,
Dihoenaf am gael gweld d’ogoniant mawr,
A welais yn y cysegr lawer awr.
3-5Gwell yw na bywyd dy ffyddlondeb di.
Am hynny, fe’th foliannaf. Codaf fi
Fy nwylo byth mewn gweddi i’th enw pêr.
Caf fy nigoni ar fraster ac ar fêr.
6-8Pan, ar fy ngwely y nos, dy gofio a wnaf –
Fel y cysgodais dan d’adenydd braf –
Fy enaid fydd yn glynu wrthyt ti;
Bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal i.
9-11Ond am y rhai a wnâi im drais a chlwy,
Ysglyfaeth i lwynogod fyddant hwy;
A bydd y brenin byth yn llawenhau
Yn Nuw, cans tewir pob celwyddgi gau.

Currently Selected:

Salmau 63: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in