YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 69

69
SALM 69
Gweddi mewn dyfroedd dyfnion
Meriba 87.87.D
1-4aGwared fi, O Dduw, oherwydd
Rwyf yn suddo’n ddwfn mewn llaid;
Dyfroedd sy’n fy sgubo ymaith,
Blinais weiddi yn ddi-baid.
Mae fy llygaid wedi pylu’n
Disgwyl, Dduw, amdanat ti.
Mae ’ngelynion ffals yn amlach
Nag yw ’ngwallt na’m hesgyrn i.
4b-6Sut y gallaf fi ddychwelyd
Beth nas dygais yn fy myw?
Gwyddost ti fy ffolinebau,
A’m camweddau i gyd, fy Nuw.
Ond na foed i’r rhai a’th geisio
Weld fy nhynged i yn awr,
Rhag i’w ffydd yn d’allu ddarfod,
Arglwydd Dduw y Lluoedd mawr.
7-12Er dy fwyn y’m gwaradwyddwyd.
Gwadodd fy holl deulu i.
Sêl dy dŷ a’m hysodd; teimlaf
Wawd y rhai a’th wawdia di.
Ceblir fi pan wy’n ymprydio,
Rwyf yn wrthrych straeon cas
Yn y ddinas, ac yn destun
I ganeuon meddwon cras.
13-17Ond daw ’ngweddi atat, Arglwydd,
Ar yr amser priodol, Dduw.
Yn dy gariad mawr, rho ateb.
Gwared fi, fel y caf fyw.
Achub fi o’r llaid a’r dyfroedd,
Rhag i’r pwll fy llyncu i.
Ateb fi yn dy drugaredd,
Canys da dy gariad di.
18-21Nesâ ataf i’m gwaredu,
Cans, O Dduw, fe wyddost ti
Fy nghywilydd, ac adwaenost
Natur fy ngelynion i.
Fe ddisgwyliais am dosturi
Ac am gysur, heb eu cael.
Rhoesant wenwyn yn fy ymborth,
Ac, i’w yfed, finegr gwael.
22-29Rhwyder hwy yn eu haberthau.
Torra’u grym, a daller hwy.
Boed eu tai yn anghyfannedd,
Canys gwnânt fy mriwiau’n fwy.
Cosba hwy, a’u cosbi eilwaith,
A’u dileu o lyfr y byw.
Yr wyf fi mewn poen a gofid.
Cod fi i fyny, O fy Nuw.
30-33Molaf enw Duw, a rhoddaf
Ddiolchgarwch iddo ar gân.
Gwell fydd hynny gan yr Arglwydd
Nag aberthau gwych o’r tân.
Gwelwch hyn, a byddwch lawen,
Chwi drueiniaid a gais Dduw,
Cans fe wrendy gri’r anghenus,
Ac i’r caethion ffyddlon yw.
34-36Boed i’r nefoedd oll a’r ddaear
Ei foliannu yn un côr,
A boed iddo dderbyn moliant
Popeth byw sydd yn y môr.
Cans bydd Duw’n gwaredu Seion;
Fe wna Jwda eto’n gref.
Fe drig plant ei weision yno,
A’r rhai sy’n ei garu ef.

Currently Selected:

Salmau 69: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in