YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 74

74
SALM 74
Galarnad am ddinistrio’r deml
Eirinwg 98.98.D
1-5Pam bwrw dy ddefaid o’r neilltu
Ym mwg dy ddigofaint, O Dduw?
Ymwêl eto â’r bobl a brynaist,
A Seion, lle’r oeddit yn byw.
Cyfeiria dy draed at dy deml
Sy’n awr yn adfeilion di-lun –
D’elynion yn rhuo yn dy gysegr
A chodi’u harwyddion eu hun.
6-11Chwalasant hi, megis coedwigwyr
Yn chwifio eu bwyeill mewn coed.
Malasant y cerfwaith, a maeddu
Preswylfod dy enw erioed.
Llosgasant holl demlau ein cenedl,
Ac ni ŵyr neb oll am ba hyd.
Pa hyd, Dduw, y’th wawdia d’elynion,
A thithau yn aros yn fud?
12-17Ond ti yw fy mrenin, iachawdwr
Y ddaear, a rhannwr y môr.
Fe ddrylliaist saith pen Lefiathan,
A’i roi i forfilod yn stôr.
Agoraist ffynhonnau ac afonydd;
Gosodaist derfynau y byd.
Sefydlaist yr heulwen a’r lleuad,
A threfnu’r tymhorau i gyd.
18-23Mae’r gelyn, O Dduw, yn dy wawdio.
Na wna dy golomen yn fwyd
Bwystfilod. Rho sylw i’th gyfamod
Ar ddaear sy’n llawn trais a nwyd.
Na ddrysa y rhai gorthrymedig,
Ond boed i’r anghenus a’r tlawd
Dy foli. O Dduw, dadlau d’achos,
A chofia d’elynion a’u gwawd.

Currently Selected:

Salmau 74: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in