YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 86

86
SALM 86
Tro dy glust ataf, Arglwydd
Reliance 10.10.10.10
1-2Tro dy glust ataf, Arglwydd, dan fy ffawd,
Oherwydd rwy’n anghenus ac yn dlawd.
Arbed fy mywyd; teyrngar ydwyf fi,
Dy was, ac rwy’n ymddiried ynot ti.
3-5Ti yw fy Nuw, O Arglwydd; trugarha,
Cans gwaeddaf arnat beunydd. Llawenha
Dy was, cans arnat y dibynnaf fi;
Da a maddeugar, Arglwydd, ydwyt ti.
6-8Gwrando ar f’ymbil; fy ngweddïau clyw;
Yn nydd fy ing, atebi fi, O Dduw.
Does neb fel ti ymhlith y duwiau i gyd;
Unigryw dy weithredoedd drwy’r holl fyd.
9-11aFe welir holl genhedloedd byd yn dod
I blygu o’th flaen, a rhoi i’th enw glod.
Cans rwyt ti’n fawr; gwnei ryfeddodau fyrdd.
Ti ydyw’r unig Dduw; dysg im dy ffyrdd.
11b-13Gad imi rodio yn dy wirionedd di;
I ofni d’enw tro fy nghalon i.
Clodforaf dy ffyddlondeb di-droi’n ôl.
Gwaredaist ti fy mywyd o Sheol.
14-15Cododd, O Dduw, yn f’erbyn wŷr trahaus;
Bygythia criw didostur fi’n barhaus.
Ond d’anian di, gras a thrugaredd yw;
Llawn cariad a gwirionedd wyt, O Dduw.
16-17Tro ataf, trugarha; rho nerth i’th was;
Rho imi arwydd o’th ddaioni a’th ras;
A chywilyddier pawb sy’n fy nghasáu
Am i ti, Dduw, fy helpu a’m hiacháu.

Currently Selected:

Salmau 86: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in