YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 88

88
SALM 88
Gweddi un a fu’n glaf o’i ieuenctid
Aberavon 77.77
1-3aArglwydd, doed fy ngweddi brudd
Am dy gymorth nos a dydd
Atat ti. Yr wyf yn llawn
O helbulon dyrys iawn.
3b-5At Sheol yr wy’n nesáu;
Rwyf fel un sydd yn llesgáu,
Fel y meirw yn y bedd
Na chânt brofi dim o’th hedd.
6-8Bwriaist fi i fannau llwm.
Daeth dy ddicter arna’ i’n drwm.
Gwnest i’m ffrindiau ymbellhau,
Fe’m caethiwaist a’m tristáu.
9-10Pyla poen fy llygaid i.
Galwaf beunydd arnat ti.
A wnei di i’r meirwon mud
Rai o’th ryfeddodau drud?
11-12A foliennir di, O Dduw,
Yn nhir Abadon? A yw
Yn wybyddus ddim o’th waith
Yn nhir ango’r caddug maith?
13-15aLlefaf am dy gymorth di;
Yn y bore clywi fi.
Pam fy ngwrthod i, O Dduw?
Rwyf ar drengi, a’m corff yn wyw.
15b-16Fe ddioddefais ddychrynfeydd
O’m hieuenctid; dy wasgfeydd
Sy’n fy nifa; drosof fi
Llifodd dy ddigofaint di.
17-18Mae’n f’amgylchu megis lli,
Ac yn cau amdanaf fi;
Rwyf heb gyfaill yn y byd,
Cans dieithriaist hwy i gyd.

Currently Selected:

Salmau 88: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in