YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 89

89
SALM 89
Ystyried y cyfamod â Dafydd
Sabbath MS
1-2Datganaf byth dy gariad di,
A’n cynnal ni drwy’r oesoedd,
A’th faith ffyddlondeb, Arglwydd Dduw –
Mor sicr yw â’r nefoedd.
3-4Dywedaist ti, “Cyfamod gras
A wneuthum â’m gwas Dafydd:
‘Mi sicrhaf dy had mewn hedd
A’th orsedd yn dragywydd’”.
5-7Rhoed holl lu’r nef fawl iti’n awr
Am dy fawr ryfeddodau.
Pwy ond yr Arglwydd Dduw, yn wir,
A ofnir gan y duwiau?
8-9O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy
Ohonynt hwy sydd cystal?
Ti sydd yn llywodraethu’r môr,
Yn chwyddo’r don a’i hatal.
10-12aFe ddrylliaist dy elynion cas
A Rahab fras â’th fysedd.
Rhoist nef a daear yn eu lle,
A chreaist dde a gogledd.
12b-14aO Dabor ac o Hermon daw
I’th nerthol law glodforedd.
Barn a chyfiawnder yw’r ddau faen
Sy’n ffurfio sylfaen d’orsedd.
14b-15aRhagflaenir di, O Arglwydd da,
Gan gariad a gwirionedd.
Gwyn fyd y rhai a ddaw mewn parch,
A’th gyfarch mewn gorfoledd.
15b-16Gwyn fyd y rhai sydd yn mwynhau
Dy ffafrau di bob amser,
Sy’n gorfoleddu yn d’enw di,
Yn ffoli ar dy gyfiawnder.
17-18Cans ti yw ein gogoniant ni,
Fe beri i’n corn ddyrchafael.
Ein tarian ydyw’r Arglwydd Dduw,
Ein brenin yw Sanct Israel.
Hysbysaist dy ffyddloniaid gynt,
Rhoist iddynt weledigaeth:
19“O blith y bobl coronais lanc,
Gŵr ifanc grymus odiaeth.
20-22Eneiniais Ddafydd, fy ngwas glew,
Â’m holew sanctaidd. Iddo
Mi rof fy nerth a’m cryfder i,
Ac ni chaiff neb ei goncro.
23-24Nis trecha’r gelyn yn y gad.
Fy nghariad a’m ffyddlondeb
Fydd gydag ef. Yn f’enw bydd
Ysblennydd ei ddisgleirdeb.
25-26Dros yr afonydd oll a’r môr
Rhof iddo’r fuddugoliaeth;
A dywed ef, ‘Fy nhad, ti yw
Fy Nuw a’m hiachawdwriaeth’.
27-28Yn brif etifedd mi a’i gwnaf,
Yr uchaf o’r brenhinoedd.
Deil fy nghyfamod yn ddi-wad
A’m cariad yn oes oesoedd.
29-32Fe bery’i orsedd byth; ei blant,
Os llygrant f’ordeiniadau,
Neu dorri fy ngorchmynion da,
A gosbaf â fflangellau.
33-34Ond deil fy nghariad, er pob gwall;
Di-ball fydd fy ffyddlondeb.
Ni wadaf ddim a draethais i,
Na thorri fy nghytundeb.
35-37Mi dyngais i’m sancteiddrwydd lw
I’w gadw byth â Dafydd
Y pery ei had a’i orsedd ef
Cyhyd â’r nef dragywydd.”
38-39Ond eto, fe droist heibio fri
D’eneiniog di, a’i wrthod,
A thaflu i’r llawr ei goron bur,
Diddymu’r hen gyfamod.
40-41Mae’i furiau yn furddunod prudd,
A’i geyrydd yn adfeilion;
Ysbeilir ef gan bawb yn ffri;
Mae’n destun sbri cymdogion.
42-43Ei wrthwynebwyr nawr sydd ben,
A llawen ei elynion.
Fe bylaist fin ac awch ei gledd
A gomedd dy gynghorion.
44-45Fe fwriaist orsedd hwn i’r llawr,
A dryllio o’i law’r deyrnwialen,
Byrhau’i ieuenctid, a rhoi tost
Gywilydd drosto’n gaenen.
46-48Ai byth, O Dduw, y cuddi di?
Ond cofia fi, sy’n feidrol.
Pa ddyn fydd byw heb weld ei dranc?
A ddianc neb rhag Sheol?
49-50O Dduw, ple mae dy gariad di,
A dyngaist gynt i Ddafydd?
Gwêl fel yr wyf yn dwyn ar goedd
Sarhad y bobloedd beunydd.
51-52Er bod d’eneiniog di a’i ffawd
Yn wrthrych gwawd a chrechwen,
Bendigaid fyddi, Dduw di-lyth,
Am byth. Amen ac Amen.

Currently Selected:

Salmau 89: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in