YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 16

16
Hagar ac Ismael
1Nid oedd plant gan Sarai gwraig Abram, ond yr oedd ganddi forwyn o Eifftes, o'r enw Hagar. 2Dywedodd Sarai wrth Abram, “Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi.” Gwrandawodd Abram ar Sarai. 3Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gŵr Abram. 4Cafodd ef gyfathrach â Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg. 5Yna dywedodd Sarai wrth Abram, “Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom.” 6Dywedodd Abram wrth Sarai, “Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda.” Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.
7Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddŵr yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur. 8A dywedodd wrthi, “Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?” Dywedodd hithau, “Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai.” 9A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, “Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi.” 10Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, “Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo.” 11A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi:
“Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab;
byddi'n ei alw yn Ismael#16:11 H.y., Y mae Duw yn clywed.,
oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.
12Asyn gwyllt o ddyn a fydd,
a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef,
un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr.”
13A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn “Tydi yw El-roi#16:13 H.y., Duw y gweld.”, oherwydd dywedodd, “A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar ôl ei weld?”#16:13 “A wyf… weld?” Tebygol. Hebraeg yn aneglur.. 14Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi;#16:14 H.y., Pydew yr un sy'n gweld a byw. y mae rhwng Cades a Bered.
15Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael. 16Yr oedd Abram yn wyth deg a chwech oed pan anwyd iddo Ismael o Hagar.

Currently Selected:

Genesis 16: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in