YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 22

22
Aberthu Isaac
1Wedi'r pethau hyn, rhoddodd Duw brawf ar Abraham. 2“Abraham,” meddai wrtho, ac atebodd yntau, “Dyma fi.” Yna dywedodd, “Cymer dy fab, dy unig fab Isaac, sy'n annwyl gennyt, a dos i wlad Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar y mynydd a ddangosaf iti.” 3Felly cododd Abraham yn fore, cyfrwyodd ei asyn, a chymryd dau lanc gydag ef, a'i fab Isaac; a holltodd goed i'r poethoffrwm, a chychwynnodd i'r lle y dywedodd Duw wrtho. 4Ar y trydydd dydd cododd Abraham ei olwg, a gwelodd y lle o hirbell. 5Yna dywedodd Abraham wrth ei lanciau, “Arhoswch chwi yma gyda'r asyn; mi af finnau a'r bachgen draw ac addoli, ac yna dychwelwn atoch.” 6Cymerodd goed y poethoffrwm a'u gosod ar ei fab Isaac; a chymerodd y tân a'r gyllell yn ei law ei hun. Ac felly yr aethant ill dau ynghyd. 7Yna dywedodd Isaac wrth ei dad Abraham, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Ie, fy mab?” Ac meddai Isaac, “Dyma'r tân a'r coed; ond ble mae oen y poethoffrwm?” 8Dywedodd Abraham, “Duw ei hun fydd yn darparu oen y poethoffrwm, fy mab.” Ac felly aethant ill dau gyda'i gilydd.
9Wedi iddynt gyrraedd i'r lle'r oedd Duw wedi dweud wrtho, adeiladodd Abraham allor, trefnodd y coed, a rhwymodd ei fab Isaac a'i osod ar yr allor, ar ben y coed. 10Yna estynnodd Abraham ei law, a chymryd y gyllell i ladd ei fab. 11Ond galwodd angel yr ARGLWYDD arno o'r nef, a dweud, “Abraham! Abraham!” Dywedodd yntau, “Dyma fi.” 12A dywedodd, “Paid â gosod dy law ar y bachgen, na gwneud dim iddo; oherwydd gwn yn awr dy fod yn ofni Duw, gan nad wyt wedi gwrthod rhoi dy fab, dy unig fab, i mi.” 13Cododd Abraham ei olwg ac edrych, a dyna lle'r oedd hwrdd y tu ôl iddo wedi ei ddal gerfydd ei gyrn mewn drysni; aeth Abraham a chymryd yr hwrdd a'i offrymu yn boethoffrwm yn lle ei fab. 14Ac enwodd Abraham y lle hwnnw, “Yr ARGLWYDD sy'n darparu”; fel y dywedir hyd heddiw, “Ar fynydd yr ARGLWYDD fe ddarperir.”
15Galwodd angel yr ARGLWYDD eilwaith o'r nef ar Abraham, 16a dweud, “Tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd iti wneud hyn, heb wrthod rhoi dy fab, dy unig fab, 17bendithiaf di yn fawr, ac amlhau dy ddisgynyddion yn ddirfawr, fel sêr y nefoedd ac fel y tywod ar lan y môr. Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu pyrth eu gelynion, 18a thrwyddynt bendithir holl genhedloedd y ddaear, am iti ufuddhau i'm llais.” 19Yna dychwelodd Abraham at ei lanciau ac aethant gyda'i gilydd i Beerseba; ac arhosodd Abraham yn Beerseba.
Disgynyddion Nachor
20Wedi'r pethau hyn, mynegwyd i Abraham, “Y mae Milca wedi geni plant i'th frawd Nachor: 21Hus ei gyntafanedig, a'i frawd Bus, Cemuel tad Aram, 22Cesed, Haso, Pildas, Idlaff, a Bethuel.” 23Bethuel oedd tad Rebeca. Ganwyd yr wyth hyn o Milca i Nachor, brawd Abraham. 24Hefyd esgorodd Reuma, ei ordderch, ar Teba, Gaham, Tahas a Maacha.

Currently Selected:

Genesis 22: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in