YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 27

27
Isaac yn Bendithio Jacob
1Pan oedd Isaac yn hen a'i lygaid wedi pylu fel nad oedd yn gweld, galwodd ar Esau ei fab hynaf, a dweud wrtho, “Fy mab.” Atebodd yntau, “Dyma fi.” 2A dywedodd Isaac, “Yr wyf wedi mynd yn hen, ac ni wn pa ddiwrnod y byddaf farw. 3Cymer yn awr dy arfau, dy gawell saethau a'th fwa, a dos i'r maes i hela bwyd i mi, 4a gwna i mi y lluniaeth blasus sy'n hoff gennyf, a thyrd ag ef imi i'w fwyta; yna bendithiaf di cyn imi farw.”
5Yr oedd Rebeca yn gwrando ar Isaac yn siarad â'i fab Esau. A phan aeth Esau i'r maes i hela bwyd i ddod ag ef i'w dad, 6dywedodd Rebeca wrth ei mab Jacob, “Clywais dy dad yn siarad â'th frawd Esau ac yn dweud, 7‘Tyrd â helfa imi, a gwna luniaeth blasus imi i'w fwyta; yna bendithiaf di gerbron yr ARGLWYDD cyn imi farw.’ 8Gwrando'n awr, fy mab, ar yr hyn a orchmynnaf i ti. 9Dos i blith y praidd, a thyrd â dau fyn gafr da i mi, a gwnaf finnau hwy yn lluniaeth blasus i'th dad, o'r math y mae'n ei hoffi, 10a chei dithau fynd ag ef i'th dad i'w fwyta, er mwyn iddo dy fendithio di cyn iddo farw.” 11Ond dywedodd Jacob wrth ei fam Rebeca, “Ond y mae Esau yn ŵr blewog, a minnau'n ŵr llyfn. 12Efallai y bydd fy nhad yn fy nheimlo, a byddaf fel twyllwr yn ei olwg, a dof â melltith arnaf fy hun yn lle bendith.” 13Meddai ei fam wrtho, “Arnaf fi y bo dy felltith, fy mab; gwrando arnaf, dos a thyrd â'r geifr ataf.” 14Felly aeth, a dod â hwy at ei fam; a gwnaeth ei fam luniaeth blasus, o'r math yr oedd ei dad yn ei hoffi. 15Yna cymerodd Rebeca ddillad gorau ei mab hynaf Esau, dillad oedd gyda hi yn y tŷ, a'u gwisgo am Jacob ei mab ieuengaf; 16a gwisgodd hefyd grwyn y geifr am ei ddwylo ac am ei wegil llyfn; 17yna rhoddodd i'w mab Jacob y lluniaeth blasus a'r bara yr oedd wedi eu paratoi. 18Aeth yntau i mewn at ei dad a dweud, “Fy nhad.” Atebodd yntau, “Dyma fi, fy mab, pwy wyt ti?” 19Dywedodd Jacob wrth ei dad, “Esau dy gyntafanedig wyf fi. Gwneuthum fel y dywedaist wrthyf; cod ar dy eistedd a bwyta o'm helfa, a bendithia fi.” 20A dywedodd Isaac wrth ei fab, “Sut y cefaist hyd iddo mor fuan, fy mab?” Atebodd yntau, “Yr ARGLWYDD dy Dduw a'i trefnodd ar fy nghyfer.” 21Yna dywedodd Isaac wrth Jacob, “Tyrd yn nes, er mwyn imi dy deimlo, fy mab, a gwybod ai ti yw fy mab Esau ai peidio.” 22Nesaodd Jacob at Isaac ei dad, a theimlodd yntau ef a dweud, “Llais Jacob yw'r llais, ond dwylo Esau yw'r dwylo.” 23Ond nid adnabu mohono, am fod ei ddwylo'n flewog fel dwylo Esau ei frawd; felly bendithiodd ef. 24A dywedodd, “Ai ti yn wir yw fy mab Esau?” Atebodd yntau, “Myfi yw.” 25Dywedodd yntau, “Tyrd â'r helfa ataf, fy mab, imi gael bwyta a'th fendithio.” Daeth ag ef ato, a bwytaodd yntau; a daeth â gwin iddo, ac yfodd. 26A dywedodd ei dad Isaac wrtho, “Tyrd yn nes a chusana fi, fy mab.” 27Felly nesaodd a chusanodd ef; clywodd yntau arogl ei wisgoedd, a bendithiodd ef, a dweud:
“Dyma arogl fy mab,
fel arogl maes a fendithiodd yr ARGLWYDD.
28Rhodded Duw iti o wlith y nefoedd,
o fraster y ddaear, a digon o ŷd a gwin.
29Bydded i bobloedd dy wasanaethu di,
ac i genhedloedd ymgrymu o'th flaen;
bydd yn arglwydd ar dy frodyr,
ac ymgrymed meibion dy fam iti.
Bydded melltith ar y rhai sy'n dy felltithio,
a bendith ar y rhai sy'n dy fendithio.”
30Wedi i Isaac orffen bendithio Jacob, a Jacob ond prin wedi mynd allan o ŵydd ei dad Isaac, daeth ei frawd Esau i mewn o'i hela. 31Gwnaeth yntau luniaeth blasus, a mynd ag ef i'w dad, a dweud wrtho, “Cod, fy nhad, a bwyta o helfa dy fab, a bendithia fi.” 32Gofynnodd ei dad Isaac iddo, “Pwy wyt ti?” Atebodd yntau, “Dy fab Esau, dy gyntafanedig, wyf fi.” 33Yna cyffrôdd Isaac yn ddirfawr, a dywedodd, “Pwy ynteu a heliodd fwyd a'i ddwyn ataf, a minnau'n bwyta'r cwbl cyn iti ddod, ac yn rhoi'r fendith iddo ef? Ac yn wir, bendigedig fydd ef.” 34Pan glywodd Esau eiriau ei dad, gwaeddodd yn uchel a chwerw, a dweud wrth ei dad, “Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.” 35Ond dywedodd ef, “Y mae dy frawd wedi dod trwy dwyll, a chymryd dy fendith.” 36Ac meddai Esau, “Onid Jacob yw'r enw priodol arno? Y mae wedi fy nisodli#27:36 Cymh. 25:26. ddwywaith: dygodd fy ngenedigaeth-fraint, a dyma ef yn awr wedi dwyn fy mendith.” Yna dywedodd, “Onid oes gennyt fendith ar ôl i minnau?” 37Atebodd Isaac a dweud wrth Esau, “Yr wyf wedi ei wneud ef yn arglwydd arnat, a rhoi ei holl berthnasau yn weision iddo, ac ŷd a gwin i'w gynnal. Beth, felly, a allaf ei wneud i ti, fy mab?” 38A dywedodd Esau wrth ei dad, “Ai yr un fendith hon yn unig sydd gennyt, fy nhad? Bendithia fi, finnau hefyd, fy nhad.” A chododd Esau ei lais ac wylo.
39Yna atebodd ei dad Isaac a dweud wrtho:
“Wele, bydd dy gartref heb fraster daear,
a heb wlith y nef oddi uchod.
40Wrth dy gleddyf y byddi fyw,
ac fe wasanaethi dy frawd;
ond pan ddoi'n rhydd,
fe dorri ei iau oddi ar dy wddf.”
41A chasaodd Esau Jacob o achos y fendith yr oedd ei dad wedi ei rhoi iddo, a dywedodd Esau wrtho'i hun, “Daw yn amser i alaru am fy nhad cyn hir; yna lladdaf fy mrawd Jacob.” 42Ond cafodd Rebeca wybod am eiriau Esau ei mab hynaf; anfonodd hithau a galw am Jacob ei mab ieuengaf, a dweud wrtho, “Edrych, y mae dy frawd Esau yn ei gysuro ei hun wrth feddwl am dy ladd. 43Yn awr, fy mab, gwrando arnaf; cod, a ffo i Haran at fy mrawd Laban, 44ac aros dros dro gydag ef, nes bod llid dy frawd wedi cilio. 45Yna pan fydd dicter dy frawd wedi cilio, ac yntau wedi anghofio'r hyn a wnaethost, mi anfonaf i'th gyrchu oddi yno. Pam y caf fy amddifadu ohonoch eich dau mewn un diwrnod?”
Anfon Jacob at Laban
46Dywedodd Rebeca wrth Isaac, “Yr wyf wedi blino byw o achos merched yr Hethiaid. Os prioda Jacob wraig o blith merched yr Hethiaid fel un o'r rhain, sef un o ferched y wlad, i beth y byddaf fyw?”

Currently Selected:

Genesis 27: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in