Lefiticus 11
11
Anifeiliaid Glân ac Aflan
Deut. 14:3–21
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud wrthynt, 2“Dywedwch wrth bobl Israel, ‘O'r holl anifeiliaid sy'n byw ar y ddaear, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: 3unrhyw anifail sy'n hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, a hefyd yn cnoi cil, cewch fwyta hwnnw. 4Y mae ambell un yn cnoi cil yn unig, ac un arall yn hollti'r ewin yn unig, ond nid ydych i fwyta'r rheini. Y mae'r camel yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi. 5Y mae'r broch yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi. 6Y mae'r ysgyfarnog yn cnoi cil, ond heb fforchi'r ewin, ac y mae'n aflan ichwi. 7Y mae'r mochyn yn hollti'r ewin ac yn ei fforchi i'r pen, ond heb gnoi cil, ac y mae'n aflan ichwi. 8Nid ydych i fwyta eu cig na chyffwrdd â'u cyrff; y maent yn aflan ichwi.
9“ ‘O'r holl greaduriaid sy'n byw yn nŵr y môr neu'r afonydd, dyma'r rhai y cewch eu bwyta: pob un ac iddo esgyll neu gen, cewch fwyta hwnnw. 10Ond popeth sydd yn y moroedd neu'r afonydd heb esgyll na chen, boed yn ymlusgiad neu greadur arall sy'n byw yn y dŵr, y mae'n ffiaidd ichwi. 11Gan eu bod yn ffiaidd ichwi, ni chewch fwyta eu cig, ac yr ydych i ffieiddio eu cyrff. 12Y mae unrhyw beth yn y dŵr sydd heb esgyll na chen yn ffiaidd ichwi.
13“ ‘Dyma'r adar sydd yn ffiaidd ichwi, ac na chewch eu bwyta am eu bod yn ffiaidd: yr eryr, y fwltur, eryr y môr, 14y barcud, unrhyw fath o gudyll, 15unrhyw fath o frân, 16yr estrys, y frân nos, yr wylan, ac unrhyw fath o hebog, 17y dylluan, y fulfran, y dylluan wen, 18y gigfran, y pelican, y fwltur mawr, 19y ciconia, unrhyw fath o grëyr, y gornchwiglen a'r ystlum.
20“ ‘Y mae unrhyw bryf adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi. 21Ond y mae rhai pryfed adeiniog sy'n ymlusgo ar bedwar troed y cewch eu bwyta: y rhai sydd â chymalau yn eu coesau i sboncio ar y ddaear. 22O'r rhain cewch fwyta unrhyw fath ar locust, ceiliog rhedyn, criciedyn neu sioncyn gwair. 23Ond y mae pob pryf adeiniog arall sy'n ymlusgo ar bedwar troed yn ffiaidd ichwi.
24“ ‘Byddwch yn eich halogi eich hunain trwy'r rhain; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr. 25Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.
26“ ‘Y mae unrhyw anifail sydd heb hollti'r ewin a'i fforchi i'r pen, a heb gnoi cil, yn aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan. 27O'r holl greaduriaid sy'n cerdded ar eu pedwar, y mae'r rhai sy'n cerdded ar eu pawennau yn aflan i chwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'u cyrff yn aflan hyd yr hwyr. 28Rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn eu cyrff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; y maent yn aflan ichwi.
29“ ‘O'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, y mae'r rhain yn aflan ichwi: y wenci, y llygoden, pob math ar lysard, 30y geco, y llyffant, y genau-goeg, y lysard melyn a'r fadfall. 31O'r rhai sy'n ymlusgo ar y ddaear, dyna'r rhai sy'n aflan ichwi; bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â hwy wedi iddynt farw yn aflan hyd yr hwyr. 32A bydd unrhyw beth y syrth un ohonynt arno wedi iddo farw, yn aflan, boed o goed, brethyn, croen neu sachliain, i ba beth bynnag y defnyddir ef; rhaid ei roi mewn dŵr, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân. 33Os syrth un ohonynt i lestr pridd, bydd popeth sydd ynddo yn aflan a rhaid torri'r llestr. 34Y mae unrhyw fwyd y gellir ei fwyta, ond sydd â dŵr o'r llestri arno, yn aflan; ac y mae unrhyw ddiod y gellir ei hyfed o'r llestr yn aflan. 35Y mae unrhyw beth y syrth rhan o'u cyrff arno yn aflan, a rhaid ei ddryllio, boed ffwrn neu badell, gan ei fod yn aflan, ac yr ydych i'w ystyried yn aflan. 36Eto y mae ffynnon neu bydew i gronni dŵr yn lân; y peth sy'n cyffwrdd â'u cyrff sy'n aflan. 37Os bydd un o'r cyrff yn disgyn ar unrhyw had sydd i'w blannu, y mae'n lân; 38ond os bydd dŵr ar yr had a'r corff yn disgyn arno, bydd yn aflan ichwi.
39“ ‘Os bydd un o'r anifeiliaid y cewch eu bwyta yn marw, bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd â'i gorff yn aflan hyd yr hwyr; 40rhaid i unrhyw un sy'n bwyta peth o'r corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr; rhaid i unrhyw un sy'n gafael yn y corff olchi ei ddillad, a bydd yn aflan hyd yr hwyr.
41“ ‘Y mae unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ffiaidd; ni ddylid ei fwyta. 42Peidiwch â bwyta unrhyw ymlusgiad sy'n ymlusgo ar y ddaear, boed yn symud ar ei dor, neu'n cerdded ar bedwar troed neu ar amryw draed; y mae'n ffiaidd. 43Peidiwch â'ch gwneud eich hunain yn ffiaidd trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo; a pheidiwch â'ch halogi eich hunain trwyddynt na'ch cael yn aflan o'u plegid. 44Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi. Peidiwch â'ch halogi eich hunain trwy'r un o'r ymlusgiaid sy'n ymlusgo ar y ddaear. 45Myfi yw'r ARGLWYDD a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft i fod yn Dduw ichwi; byddwch sanctaidd, oherwydd sanctaidd wyf fi.
46“ ‘Dyma'r ddeddf ynglŷn â'r anifeiliaid, yr adar, y creaduriaid byw sy'n llusgo trwy'r dyfroedd a'r creaduriaid sy'n ymlusgo ar y ddaear, 47er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng y creaduriaid byw y gellir eu bwyta a'r rhai na ellir eu bwyta.’ ”
Currently Selected:
Lefiticus 11: BCNDA
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004