YouVersion Logo
Search Icon

Marc 15:33-41

Marc 15:33-41 DAW

O ganol dydd hyd dri o'r gloch y prynhawn, aeth hi'n dywyll dros y wlad, a phryd hynny gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani,” — “Fy Nuw, fy Nuw pam rwyt ti wedi fy ngadael i?” Pan glywon nhw hyn, dwedodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, mae e'n galw ar Elias.” Rhedodd rhywun a llanw ysbwng â gwin chwerw a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig i Iesu i'w yfed, gan ddweud, “Gadewch i ni weld a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.” Yna gwaeddodd Iesu'n uchel, a bu farw. Rhwygwyd llen y deml yn ddwy o un pen i'r llall. Pan welodd y canwriad oedd yn sefyll yn ymyl sut y bu Iesu farw, dwedodd, “Rydw i'n credu mai Mab Duw oedd y dyn hwn.” Roedd nifer o wragedd hefyd yn gwylio o bell, ac yn eu plith roedd Mair Magdalen, Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome. Roedden nhw wedi'i ddilyn a'i helpu pan oedd yng Ngalilea. Hefyd, roedd nifer o wragedd eraill wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.