YouVersion Logo
Search Icon

Marc 15

15
15. IESU YN HERIO MARWOLAETH
Iesu gerbron Pilat (Marc 15:1-5)
1-5Yn y bore bach, ymgynghorodd y prif offeiriaid gyda'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin, ac ar ôl rhwymo Iesu aethon nhw ag ef a'i drosglwyddo i Pilat. Gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti ydy Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.” Aeth y prif offeiriaid ymlaen a'i gyhuddo o lawer o bethau. Gofynnodd Pilat eto, “Oes gennyt ti ddim i'w ddweud? Glywi di faint o gyhuddiadau maen nhw'n eu dwyn yn dy erbyn di?” Ond er mawr syndod i Pilat, atebodd e ddim.
Dedfrydu Iesu i Farwolaeth (Marc 15:6-15)
6-15Yn ystod yr ŵyl roedd Pilat yn arfer rhyddhau un carcharor o ddewis y bobl. Roedd dyn o'r enw Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny a laddodd bobl yn ystod y terfysg. Daeth y dyrfa i fyny at Pilat a gofyn iddo wneud yn ôl ei arfer. Atebodd Pilat, “Ydych chi am i mi ryddhau Brenin yr Iddewon i chi?” Roedd e'n gwybod fod y prif offeiriaid yn genfigennus o Iesu, a dyna pam iddyn nhw ddod ag ef ato. Aeth y prif offeiriaid i gynhyrfu'r dyrfa er mwyn cael Pilat i ryddhau Barabbas yn hytrach na Iesu. Gofynnodd Pilat iddyn nhw, “Beth felly, ydych chi am i mi wneud â'r un rydych chi'n ei alw yn Frenin yr Iddewon?” Dyma nhw'n gweiddi'n groch, “Croeshoelia fe.” Gofynnodd Pilat iddyn nhw, “Ond pa ddrwg wnaeth e?” Atebodd y dyrfa drwy weiddi'n uwch fyth, “Croeshoelia fe.” Felly, gan fod yn well ganddo roi mewn i'r dyrfa, penderfynodd Pilat ryddhau Barabbas a gorchymyn chwipio Iesu cyn ei groeshoelio.
Y Milwyr yn Gwawdio Iesu (Marc 15:16-20)
16-20Aeth y milwyr â Iesu i'r neuadd yn nhŷ'r rhaglaw, a galw ynghyd yr holl filwyr eraill. Rhoddon nhw wisg borffor amdano, a gosod coron o ddrain plethedig am ei ben. Yna dechreuon nhw ei gyfarch drwy ddweud, “Helo, Frenin yr Iddewon.” Curon nhw ef ar ei ben â ffon, poeri arno a phlygu lawr ar eu gliniau o'i flaen. Yna, ar ôl ei wawdio, dyma nhw'n tynnu'r wisg borffor i ffwrdd a'i wisgo â'i ddillad ei hun cyn ei arwain allan i'w groeshoelio.
Croeshoelio Iesu (Marc 15:21-32)
21-32Gorfododd y milwyr Simon o Gyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario croes Iesu. Daethon nhw ag ef i le o'r enw Golgotha, “Lle Penglog.” Cynigion nhw win â myrr ynddo i Iesu, ond gwrthod a wnaeth. Roedd hi'n naw o'r gloch y bore pan groeshoeliwyd ef, a rhanwyd ei ddillad trwy daflu dis i benderfynu pwy oedd i'w cael. Ar y cyhuddiad yn ei erbyn roedd y geiriau: “Brenin yr Iddewon.” Croeshoeliwyd dau leidr hefyd gydag e, un bob ochr iddo. Roedd rhai yn ei wawdio wrth fynd heibio, gan ysgwyd eu pennau a dweud, “Hei, ti oedd yn mynd i dynnu'r deml i lawr a'i hail adeiladu mewn tri diwrnod, tyrd i lawr oddi ar y groes ac achub dy hunan.” Yn yr un modd roedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ei wneud yn destun gwawd gan ddweud, “Achubodd eraill, ond dydy e ddim yn gallu achub ei hun. Gadewch i ni weld y Meseia, Brenin Israel, yn dod i lawr oddi ar y groes, er mwyn i ni gredu.” Roedd y ddau a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio hefyd.
Marwolaeth Iesu (Marc 15:33-41)
33-41O ganol dydd hyd dri o'r gloch y prynhawn, aeth hi'n dywyll dros y wlad, a phryd hynny gwaeddodd Iesu'n uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani,” — “Fy Nuw, fy Nuw pam rwyt ti wedi fy ngadael i?” Pan glywon nhw hyn, dwedodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, mae e'n galw ar Elias.” Rhedodd rhywun a llanw ysbwng â gwin chwerw a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig i Iesu i'w yfed, gan ddweud, “Gadewch i ni weld a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.” Yna gwaeddodd Iesu'n uchel, a bu farw. Rhwygwyd llen y deml yn ddwy o un pen i'r llall. Pan welodd y canwriad oedd yn sefyll yn ymyl sut y bu Iesu farw, dwedodd, “Rydw i'n credu mai Mab Duw oedd y dyn hwn.” Roedd nifer o wragedd hefyd yn gwylio o bell, ac yn eu plith roedd Mair Magdalen, Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome. Roedden nhw wedi'i ddilyn a'i helpu pan oedd yng Ngalilea. Hefyd, roedd nifer o wragedd eraill wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.
Claddu Iesu (Marc 15:42-47)
42-47Erbyn hyn roedd hi'n hwyr, a chan ei bod yn Saboth y diwrnod wedyn, aeth Joseff o Arimathea i weld Pilat. Roedd e'n gynghorwr parchus ac yn disgwyl am ddyfodiad teyrnas Dduw. Gofynnodd am gorff Iesu. Synnodd Pilat i glywed fod Iesu eisioes wedi marw, a holodd y canwriad ynglŷn â'r amser y digwyddodd hynny cyn rhoi'r corff i Joseff. Prynodd yntau liain a thynnodd Iesu i lawr o'r groes a'i rwymo ynddo. Yna dododd e mewn bedd oedd wedi'i naddu o'r graig, a rholiodd garreg fawr ar draws yr agoriad. Gwelodd Mair Magdalen a Mair mam Joses lle rhoddwyd corff Iesu i orwedd.

Currently Selected:

Marc 15: DAW

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in