YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 5

5
1Tithau fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio, ac eillia dy ben a’th farf: yna y cymeri i ti gloriannau pwys, ac y rhenni hwynt. 2Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwarchae; traean a gymeri hefyd, ac a’i trewi â’r gyllell o’i amgylch; a thraean a daeni gyda’r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt. 3Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chlyma hwynt yn dy odre. 4A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a’r tiroedd o’i hamgylch. 6A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na’r cenhedloedd, a’m deddfau yn fwy na’r gwledydd sydd o’i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a’m deddfau, ni rodiasant ynddynt. 7Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i chwi amlhau yn fwy na’r cenhedloedd sydd o’ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o’ch amgylch; 8Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd. 9A gwnaf ynot yr hyn ni wneuthum, ac nis gwnaf ei fath mwy, am dy holl ffieidd-dra. 10Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di, a’r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt. 11Am hynny, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â’th holl ffieidd-dra ac â’th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.
12Dy draean fyddant feirw o’r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o’th amgylch: a thraean a daenaf gyda phob gwynt: a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt. 13Felly y gorffennir fy nig, ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac ymgysuraf: a hwy a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais yn fy ngwŷn, pan orffennwyf fy llid ynddynt. 14A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o’th amgylch, yng ngolwg pawb a êl heibio. 15Yna y bydd y gwaradwydd a’r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i’r cenhedloedd sydd o’th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr Arglwydd a’i lleferais. 16Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i’w difetha, y rhai a ddanfonaf i’ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a thorraf eich ffon bara: 17Anfonaf hefyd arnoch newyn, a bwystfil drwg; ac efe a’th ddiblanta di: haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti; a dygaf gleddyf arnat. Myfi yr Arglwydd a’i lleferais.

Currently Selected:

Eseciel 5: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in