YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 17

17
1Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi. 2Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a’u dychryno. 3A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd. 4Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha. 5Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â’i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.
6Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel. 7Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel: 8Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na’r llwyni, na’r delwau.
9Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd-dra. 10Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr. 11Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.
12Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer. 13Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt. 14Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.

Currently Selected:

Eseia 17: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in