YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 21

21
1Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd, 2Ymofyn, atolwg, â’r Arglwydd drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.
3Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia; 4Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon. 5A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac â braich gref, mewn soriant, a llid, a digofaint mawr. 6Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr. 7Ac wedi hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.
8Ac wrth y bobl hyn y dywedi, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau. 9Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo. 10Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr Arglwydd: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi â thân.
11Ac am dŷ brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd. 12O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd. 13Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr Arglwydd; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau? 14Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.

Currently Selected:

Jeremeia 21: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Jeremeia 21