Jeremeia 9
9
1O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl! 2O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid. 3A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr Arglwydd. 4Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus. 5Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a’r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd. 6Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd. 7Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl? 8Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â’i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon? 10Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith. 11A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau, ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.
12Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd? 13A dywedodd yr Arglwydd, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi; 14Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt: 15Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl. 16Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.
17Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod, 18A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr. 19Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan. 20Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd. 21Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd. 22Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.
23Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; 24Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.
25Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig; 26A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.
Currently Selected:
Jeremeia 9: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.