YouVersion Logo
Search Icon

Marc 15

15
1Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat. 2A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 3A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim. 4A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. 5Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat. 6Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. 7Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd-derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. 8A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt. 9A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 10(Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.) 11A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. 12A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? 13A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef. 14Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.
15A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio. 16A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin; 17Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben; 18Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon. 19A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef. 20Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio. 21A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef. 22A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r benglog: 23Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth. 24Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un. 25A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef. 26Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON. 27A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo. 28A’r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir. 29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau, 30Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes. 31Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda’r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared. 32Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a’i difenwasant ef. 33A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 35A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias. 36Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr. 37A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r ysbryd. 38A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. 39A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. 40Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; 41Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.
42Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) 43Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. 44A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. 45A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. 46Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. 47A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.

Currently Selected:

Marc 15: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in