Numeri 10
10
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn. 3A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 4Ond os ag un y canant; yna y tywysogion, sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant. 5Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua’r dwyrain, a gychwynnant. 6Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua’r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn. 7Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm. 8A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau 9Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion. 10Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
11A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth. 12A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran. 13Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab. 15Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar. 16Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon. 17Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.
18Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur. 19Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai. 20Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel. 21A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
22Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud. 23Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 24Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai. 26Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran. 27Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan. 28Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
29A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel. 30Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af. 31Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni, 32A phan ddelych gyda ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna’r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt. 34A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll. 35A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o’th flaen. 36A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.
Currently Selected:
Numeri 10: BWM
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.