YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 7

7
1Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl, a’i eneinio a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u heneinio a’u sancteiddio hwynt; 2Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:) 3A’u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt. 4A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 5Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth. 6A chymerodd Moses y menni, a’r ychen, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid. 7Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt; 8A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad. 9Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
10A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion. 11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau, tuag at gysegru’r allor.
12Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda. 13A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 14Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 15Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 16Un bwch geifr yn bech-aberth: 17Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.
18Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar. 19Efe a offrymodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 20Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 21Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 22Un bwch geifr yn bech-aberth: 23Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid, Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.
24Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Sabulon. 25Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 26Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 27Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 28Un bwch geifr yn bech-aberth: 29Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: Dyma offrwm Elïab mab Helon.
30Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur, tywysog meibion Reuben. 31Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 32Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 33Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 34Un bwch geifr yn bech-aberth: 35Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: Dyma offrwm Elisur mab Sedeur.
36Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai, tywysog meibion Simeon. 37Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 38Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 39Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 40Un bwch geifr yn bech-aberth: 41Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai.
42Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel, tywysog meibion Gad. 43Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 44Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 45Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 46Un bwch geifr yn bech-aberth: 47Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel.
48Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Effraim. 49Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 50Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 51Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 52Un bwch geifr yn bech-aberth: 53Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.
54Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasse. 55Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 56Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 57Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 58Un bwch geifr yn bech-aberth: 59Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.
60Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin. 61Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 62Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 63Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 64Un bwch geifr yn bech-aberth: 65Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.
66Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai, tywysog meibion Dan. 67Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 68Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 69Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 70Un bwch geifr yn bech-aberth: 71Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.
72Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion Aser. 73Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 74Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 75Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 76Un bwch geifr yn bech-aberth: 77Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Pagiel mab Ocran.
78Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nafftali. 79Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm: 80Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth: 81Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 82Un bwch geifr yn bech-aberth: 83Ac yn hedd-aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Ahira mab Enan. 84Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur: 85Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thrigain pob ffiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ôl y sicl sanctaidd 86Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl-darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl. 87Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a’u bwyd-offrwm; a deuddeg o fychod geifr, yn offrwm dros bechod. 88A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, trigain o hyrddod, trigain o fychod, trigain o hesbyrniaid. Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio. 89Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau geriwb, ac efe a ddywedodd wrtho.

Currently Selected:

Numeri 7: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in