YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 10

10
SALM 10
1Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder?
2Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.
3Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.
4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.
5Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.
6Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
7Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
8Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
9Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.
10Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
11Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.
12Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.
13Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni.
14Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.
15Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.
16Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.
17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratöi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;
18I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

Currently Selected:

Y Salmau 10: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 10