YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 106

106
SALM 106
1Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
2Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef?
3Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser.
4Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth.
5Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth.
6Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
7Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.
8Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.
9Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch.
10Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.
11A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.
12Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.
13Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.
14Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch.
15Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.
16Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd.
17Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.
18Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.
19Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd.
20Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.
21Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;
22Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.
23Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.
24Diystyrasant hefyd y tir dymunol: ni chredasant ei air ef:
25Ond grwgnachasant yn eu pebyll; ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.
26Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch;
27Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.
28Ymgysylltasant hefyd â Baal-peor, a bwytasant ebyrth y meirw.
29Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.
30Yna y safodd Phinees, ac a iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd.
31A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
32Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt:
33Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau.
34Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt:
35Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt:
36A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt.
37Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid,
38Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed.
39Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion.
40Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
41Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt.
42Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy.
43Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd.
44Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt.
45Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau:
46Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai.
47Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.
48Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.

Currently Selected:

Y Salmau 106: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 106