YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 119

119
SALM 119
ALEFF
1Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr Arglwydd.
2Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.
3Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
4Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal.
5O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau!
6Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion.
7Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
8Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol.
BETH
9Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.
10A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.
11Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn.
12Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.
13A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.
14Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud.
15Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
16Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.
GIMEL
17Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
18Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.
19Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.
20Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser.
21Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.
22Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
23Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
24A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.
DALETH
25Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.
26Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.
27Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
28Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.
29Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.
30Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
31Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda.
32Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.
HE
33Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.
34Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon.
35Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.
36Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra.
37Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.
38Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di.
39Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.
40Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.
FAU
41Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air.
42Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.
43Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
44A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd.
45Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf.
46Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf.
47Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.
48A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
SAIN
49Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
50Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i.
51Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
52Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
53Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
54Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.
55Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith.
56Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.
CHETH
57O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
58Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
59Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
60Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.
61Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
62Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
63Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion.
64Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.
TETH
65Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air.
66Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.
67Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.
68Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.
69Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon.
70Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
71Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau.
72Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.
IOD
73Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion.
74Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
75Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
76Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr.
77Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
78Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.
79Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
80Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.
CAFF
81Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
82Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?
83Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau.
84Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?
85Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
86Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi.
87Braidd na’m difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion.
88Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.
LAMED
89Yn dragywydd, O Arglwydd, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd.
90Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif.
91Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth.
92Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd.
93Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist.
94Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais.
95Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
96Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang.
MEM
97Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.
98A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi.
99Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
100Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.
101Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.
102Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist.
103Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn.
104Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.
NUN
105Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.
106Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
107Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air.
108Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.
109Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
111Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
112Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
SAMECH
113Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais.
114Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
115Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw.
116Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
117Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
118Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
119Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.
120Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.
AIN
121Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr.
122Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu.
123Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
124Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.
125Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
126Amser yw i’r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di.
127Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.
128Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.
PE
129Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
130Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.
131Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di.
132Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw.
133Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
134Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion.
135Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau.
136Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.
TSADI
137Cyfiawn ydwyt ti, O Arglwydd, ac uniawn yw dy farnedigaethau.
138Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.
139Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di.
140Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi.
141Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.
142Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd.
143Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch.
144Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
COFF
145Llefais â’m holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.
146Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
147Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.
148Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
149Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
150Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
151Tithau, Arglwydd, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd.
152Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
RESH
153Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
154Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.
155Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
156Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
157Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
158Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.
159Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd.
160Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.
SCHIN
161Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
162Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
163Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.
164Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
165Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt.
166Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd; a gwneuthum dy orchmynion.
167Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt.
168Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.
TAU
169Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.
170Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air.
171Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
172Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder.
173Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais.
174Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.
175Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
176Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.

Currently Selected:

Y Salmau 119: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 119