YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 123

123
SALM 123
Caniad y graddau.
1Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.
2Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.
3Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
4Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.

Currently Selected:

Y Salmau 123: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in