YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 124

124
SALM 124
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
1Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;
2Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn:
3Yna y’n llyncasent ni yn fyw, pan enynnodd eu llid hwynt i’n herbyn:
4Yna y dyfroedd a lifasai drosom, y ffrwd a aethai dros ein henaid:
5Yna yr aethai dros ein henaid ddyfroedd chwyddedig.
6Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
7Ein henaid a ddihangodd fel aderyn o fagl yr adarwyr: y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddianghasom.
8Ein porth ni sydd yn enw yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

Currently Selected:

Y Salmau 124: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in