YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 129

129
SALM 129
Caniad y graddau.
1Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
2Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.
3Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
4Yr Arglwydd sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
5Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.
6Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith:
7A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
8Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd.

Currently Selected:

Y Salmau 129: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 129