YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 16

16
SALM 16
Michtam Dafydd.
1Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf.
2Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti:
3Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
4Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod-offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau.
5Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren.
6Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg.
7Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos.
8Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.
9Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith.
10Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.
11Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.

Currently Selected:

Y Salmau 16: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in