YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 71

71
SALM 71
1Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth.
2Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi.
3Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa.
4Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws.
5Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid.
6Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.
7Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
8Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd.
9Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth.
10Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant,
11Gan ddywedyd, Duw a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
12O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i’m cymorth.
13Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
14Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy.
15Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt.
16Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
17O’m hieuenctid y’m dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
18Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.
19Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti?
20Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.
21Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch.
22Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel.
23Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist.
24Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.

Currently Selected:

Y Salmau 71: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Y Salmau 71