YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 82

82
SALM 82
Salm Asaff.
1Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.
2Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.
3Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus.
4Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
5Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle.
6Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
7Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.
8Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.

Currently Selected:

Y Salmau 82: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in