YouVersion Logo
Search Icon

Rhufeiniaid 4

4
1Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd? 2Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd; eithr nid gerbron Duw. 3Canys pa beth a ddywed yr ysgrythur? Credodd Abraham i Dduw; a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 4Eithr i’r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled. 5Eithr i’r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder. 6Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd, 7Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau: 8Dedwydd yw y gŵr nid yw’r Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. 9A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder. 10Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr enwaediad, ond yn y dienwaediad. 11Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: 12Ac yn dad yr enwaediad, nid i’r rhai o’r enwaediad yn unig, ond i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad. 13Canys nid trwy’r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd. 14Canys os y rhai sydd o’r ddeddf yw yr etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddi-rym. 15Oblegid y mae’r ddeddf yn peri digofaint; canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. 16Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai’r addewid yn sicr i’r holl had; nid yn unig i’r hwn sydd o’r ddeddf, ond hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll, 17(Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a’th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent: 18Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di. 19Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara. 20Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw: 21Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd. 22Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 23Eithr nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo; 24Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw: 25Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.

Currently Selected:

Rhufeiniaid 4: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Rhufeiniaid 4