YouVersion Logo
Search Icon

Seffaneia 1

1
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda. 2Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd. 3Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; a’r tramgwyddiadau ynghyd â’r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd. 4Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o’r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â’r offeiriaid; 5A’r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a’r addolwyr y rhai a dyngant i’r Arglwydd, a hefyd a dyngant i Malcham; 6A’r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd; a’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd, ac nid ymofynasant amdano. 7Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd: oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion. 8A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled â’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr. 9Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll. 10A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o’r ail, a drylliad mawr o’r bryniau. 11Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith. 12A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg. 13Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin. 14Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd: yno y bloeddia y dewr yn chwerw. 15Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd-dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni. 16Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel. 17A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom. 18Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd; ond â thân ei eiddigedd ef yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.

Currently Selected:

Seffaneia 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Seffaneia 1