YouVersion Logo
Search Icon

Lyfr y Psalmau 11

11
1Yn Nuw y mae fy hyder i;
Pa’m ynte y dywedwch chwi
Wrth f’ enaid, “Hed i’ch mynydd draw,
Fel yr aderyn yn ei fraw?”
2“Yr anwir,” meddwch, “mawr ei rym,
Annelu mae ei saethau llym
Ar fwa cudd, i saethu ’n awr
Fywyd yr union ddyn i lawr.
3“Y seiliau,” meddwch, “seiliau ’r byd,
Taflwyd a chwalwyd hwynt i gyd;
Beth a wna ’r cyfion gwan yn awr
Yn erbyn y fath ddistryw mawr?”
YR AIL RAN
4Mae ’r Arglwydd yn ei sanctaidd Dŷ,
A’i orsedd fry sy ’n uchel;
Cenfydd ei lygaid ddynion byd,
A’u holl feddylfryd dirgel.
5Yr Ior a farn y cyfiawn rai,
A phawb a’r a’i gwas’naethont;
Ond ffiaidd gan ei fron ddi‐nam
Yw pawb ar gam a wnelont.
6Fe wlawia ar yr anwir gau
Ei faglau, tân a brwmstan,
A chorwynt poeth ystormus iawn—
O hyn bydd lawn eu cwppan.
7Yr Arglwydd, cyfiawn yw ei fâr,
Efe a gâr gyfiawnder;
A’i wyneb Ef a edrych fyth
Ar bur ddi‐lyth unionder.

Currently Selected:

Lyfr y Psalmau 11: SC1850

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Lyfr y Psalmau 11