YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 21

21
SALM XXI.
M. S.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1O Arglwydd! yn dy nerth a’th rin
Y brenin lawenycha,
Ac yn dy iachawdwriaeth fawr
Mor ddirfawr ymhyfryda.
2Ti ganiateaist iddo gael
Dymuniad hael ei galon;
Deisyfiad ei wefusau heb gêl
Roist iddo ’n ddiogel ddigon.
3Achubaist ti ei flaen yn llon,
A phob bendithion dethol;
Gosodaist ar ei ben yn glaer
Goron o aur rhagorol.
4Hir oes o fywyd wrth ei fodd
Ef a ofynodd genyd;
Hir oes a roddaist iddo hyd byth,
Ac yn dragyfyth hefyd.
5Mawr yw’r gogoniant iddo ddaeth
Trwy’th iachawdwriaeth dirion;
Ti roddaist iddo ef, dy Sant,
Ogoniant a phrydferthion.
6Can’s gwnaethost e’n fendithion, do, ’n
Fendithion yn dragwyddol;
A llawenychi ef o hyd
A’th lon wynebpryd grasol.
Rhan II.
M. S.
7Herwydd i’r Brenin roi ei gred
Yn Nuw, a’i ’mddiried ynddo,
Trugaredd Iôr a’i deil, fel na
Ysgoga ’i orsedd dano.
8Dy law gaiff afael ar bob un
A fo yn elyn i ti;
Dy ddeheulaw a ddeil yn dỳn
Bob cyndyn mewn drygioni.
9Gwnei hwy fel ffwrnes danllyd boeth
Yn nydd dy noeth ddigllonedd;
Fe’u llyngcir i drueni prudd,
A dyna fydd eu diwedd.
10Eu ffrwyth ddinystri di oddi ar
Y ddaear hon yn ddiau;
A’u had o blith plant dynion oll
Fe’u cyfrgollir hwythau.
11Cydfwriadasant yn ddwfn iawn
Gynlluniau llawn drygioni:
Ond coeg amcanion ynfyd nas
Gallasent eu cyflawni.
12Am hyny gwnei di iddynt ffoi
Pan barotoi dy saethau,
A’u gosod ar dy fŵa tỳn
Yn erbyn eu hwynebau.
13Ymddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth,
I ti yn brydferth canwn;
Am dy gadernid, ein Duw mâd,
Yn wastad y’th ganmolwn.
Nodiadau.
Ymddengys yn debygol iawn mai salm o ddiolchgarwch am attebiad i’r weddi dros y brenin (sef Dafydd) yn y salm o’r blaen ydyw hon, wedi iddo ddychwelyd adref yn fuddugoliaethus o’i ryfel â Hadadezer a’r Syriaid. Cyflwynir hi fel hono i’r pencerdd i’w chanu gan gantorion y cyssegr, y rhai a ganasant y salm‐weddi hono drosto: ond wele yma un mwy na Dafydd — a rhai ymadroddion nad allasent gael eu cyflawni ynddo ef, nac yn neb, ond yn y Messïah ei hun; megys, “Gofynodd oes genyt, a rhoddaist iddo; ïe, hir oes, byth, ac yn dragywydd,” a “Gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol.” Canys er fod Dafydd yn fyw fel dyn, o ran ei enaid, nid yw mwyach yn fyw, fel brenin; ond y mae y Brenin y tystiolaethir am dano yma yn byw fel brenin byth ac yn dragywydd; a sicrheir iddo fuddugoliaeth lwyr ar ei holl elynion: “Canys rhaid iddo deyrnasu hyd oni osoder ei holl elynion dan ei draed.” Yr oedd buddugoliaethau Dafydd yn fath ar gysgodau o fuddugoliaethau Crist, drwy weinidogaethau ei ragluniaeth a’i air, ar ei holl elynion ysbrydol, ac o lwyddiant ei deyrnas ar y ddaear.

Currently Selected:

Salmau 21: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 21