YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 24

24
SALM XXIV.
11.9.
Salm Dafydd.
1Yr Arglwydd Iehofah a bïau’r holl fyd,
Y ddaear, a phawb a’i preswyliant;
2Gosododd ei seiliau yn gedyrn i gyd
Is dyfnder y môr a’r llifeiriant.
3Pwy esgyn i fynydd yr Arglwydd — pwy drig
Yn nghyssegr ei babell sancteiddiol?
4Yr un glân ei ddwylaw â chalon ddiddig,
Na choledd feddyliau gwageddol.
Ni thyngodd i dwyllo — cyfiawnder a wna,
5A Duw a’i bendithia’n ehelaeth;
Cyfiawnder a wnaeth, a chyfiawnder a ga
Ef dderbyn gan Dduw ’i iachawdwriaeth.
6Wel, dyma genhedlaeth y rhai ofnant Dduw,
A geisiant ei wyneb bob amser;
Ar hen etifeddiaeth deg Iacob cânt fyw,
Yn nghanol dedwyddwch a llawnder.
Rhan II.
12.11.
7O byrth anfarwoldeb! dyrchefwch eich penau,
Chwi ddrysau tragwyddol, agorwch yn awr,
A theyrn y gogoniant, i’w nefol balasau,
Ddaw ’mewn i feddiannu ei orsedd wen fawr.
8Pwy ydyw y Brenin gogoniant hwn — d’wedwch?
Iehofah, Iôr cadarn mewn trinoedd, efe —
Efe ydyw Brenin gogoniant — gwybyddwch,
Mae’n ben ar holl luoedd y ddaear a’r ne’.
9O byrth! ymagorwch; chwi ddrysau tragwyddol
Dyrchefwch eich penau i’r eithaf: rhowch le,
A theyrn y gogoniant, y Brenin anfarwol,
Yn awr ddaw i mewn — y Goruchaf yw e’.
10Pwy ydyw y Brenin gogoniant hwn, meddwch?
Neb llai nag Iehofah ei hun yw efe;
Efe yw y Brenin gogoniant — deallwch,
Iôr mawr yr holl luoedd drwy ’r ddaear a’r ne’.
Nodiadau.
Un o ddyddiau dedwyddaf bywyd Dafydd oedd y dydd y cyrchodd efe arch Duw o dŷ Obededom i Ierusalem. Rhoddodd yr achlysur hwnw iddo destyn amryw o’i salmau. Yr oedd y salm hon yn cael ei chanu, meddir, ar bob dydd cyntaf o’r wythnos, fel llawen goffadwriaeth am ddyfodiad arch Duw i Seion. Cân mewn ffordd o holi ac atteb ydyw. Yn y pennill cyntaf, gosodir allan fawredd y Duw oedd yn preswylio yn Seion, fel Creawdwr a meddiannydd y ddaear, a phawb a phob peth sydd ynddi: adn. 1, 2. Y mae yr ail yn holiad pwysig — Pwy, a pha fath yw hwnw a gaiff esgyn i fynydd Duw, ac aros ger ei fron ef yno? adn. 3. Y mae y nesaf yn attebiad i’r holiad hwn, ac yn rhoddi disgrifiad o’r hyn a raid i gymmeriad moesol hwnw fod — a rhagorol fraint a dedwyddwch y cyfryw. Dodir y pennill nesaf megys yn ngenau y Lefiaid oedd yn dwyn yr arch i fynydd Seion, i alw ar y porthorion i agor y pyrth a’r drysau, i dderbyn a chroesawu y Brenin gogoneddus i’w lys. Cyfeirir yr archeb at y pyrth a’r drysau eu hunain. Y pennill nesaf yn cynnwys atteb y porthorion i’r Lefiaid. Mewn ymofyniad ynghylch yr hwn y gelwid arnynt agor y pyrth a’r drysau o’i flaen, canlyna eu hatteb hwythau i’r ymofyniad hwnw. Y mae yr ymofyniad a’r attebiad yn cael eu dyblu, er rhoddi mwy o bwysigrwydd ac urddas ar yr amgylchiad. Y mae y rhanau olaf, yn enwedig, o’r gân yn fywiog a nerthol iawn. Naturiol a phriodol iawn, ni a dybiwn, ydyw y cymmhwysiad o’r gyfran ddiweddaf o’r salm at esgyniad ein Harglwydd Iesu Grist i, a’i ogoneddiad yn y nefoedd, yn “ben pob tywysogaeth ac awdurdod,” wedi iddo, yn nyddiau ei gnawd, ac yn ei farwolaeth a’i adgyfodiad o’r bedd, orchfygu a darostwng holl elynion gorsedd a llywodraeth Iehofah, ac agor teyrnas nef i bawb a gredant ynddo.

Currently Selected:

Salmau 24: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 24