YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 27

27
SALM XXVII.
7.6.
Salm Dafydd.
1Yr Arglwydd yw ’m goleuni
A’m hiachawdwriaeth gref,
Rhag pwy gan hyny ’r ofnwn —
Nerth f’ einioes ydyw ef;
2Pan ddaeth y rhai drygionus
Gan fygwth bwyta ’m cnawd,
Syrthiasant gyda’u gilydd
I’r pwll yn ddigon tlawd.
3Pe deuai llu i’m herbyn,
Nid ofnai ’m calon ddim,
Pe codai cadau cedyrn
Dirmygwn eu holl rym;
Hyderus fyth a fyddaf,
Yn nerth fy Nuw o hyd;
A thrwyddo ef y sathraf
Hwy dan fy nhraed i gyd.
4Un peth uwch pob peth arall
Ddeisyfais gan fy Nuw,
A hyny geisiaf etto,
Fy mhrif ddymuniad yw —
Cael trigo ’n ei gynteddau,
Drwy ’m heinioes hyd y bedd,
I weled ei brydferthwch
A ’mofyn am ei hedd.
5Can’s yn y dydd blinderus
Y’m cuddia ’n ddiogel glyd,
O fewn dirgelfa ’i babell,
A’m traed ar graig a ddyd:
6Uwch law fy holl elynion
Y dyrcha fi, ei was;
A minnau yn ei bebyll
Ddadganaf fawl ei ras.
Rhan II.
7.6.
7Clyw di, O Dduw! ’m lleferydd,
Pan lefwyf arnat ti,
Ac edrych ar fy ngweddi,
Ac ystyr wrth fy nghri;
8Ti erchaist i ni geisio
Dy wyneb grasol, Naf,
Fy nghalon innau ettyb,
Dy wyneb ceisio wnaf.
9Na chudd dy wyneb rhagof,
Na fwrw fi ymaith chwaith;
Fy nghymmhorth a’m Gwaredydd
A fuost lawer gwaith —
Na âd, na wrthod fi etto;
10Pe byddai i ’nhad a’m mam
I droi eu cefnau a’m gwrthod,
Ti ’m cedwi i rhag nam.
11Hyfforddia fi ’n dy lwybrau,
A dysg fi yn dy ffyrdd,
O herwydd fy ngelynion,
Y maent yn llawer myrdd;
12Na âd fi i’w hewyllys,
Can’s llu o dystion gau
Godasant yn fy erbyn,
Gan adrodd trawsder brau.
13Llwyr ddiffygiasai f’ enaid
Oni buasai i’m gael
Yn nhir y rhai byw weled
Daioni ’r Arglwydd hael:
14Wel, disgwyl wrtho, f’ enaid:
Ac ymwrola — clyw;
Dywedaf wrthyt etto,
Byth disgwyl wrth dy Dduw.
Nodiadau.
Y mae taflod genau y salm hon megys y gwin goreu, ac yn myned i wared yn felus; a gwnaeth rhai o’i hymadroddion i wefusau llawer Cristion, pan ar huno yn yr angeu, lefaru. Ar ba achlysur neillduol yn ei fywyd y cyfansoddodd Dafydd hon nis gellir penderfynu, nac ychwaith yn mha dymmor o’i fywyd:— Pan oedd dan orthrymder erledigaeth Saul, medd rhai: pan wedi heneiddio, ac ar achlysur marwolaeth ei dad a’i fam, medd ereill: wedi bod mewn perygl mawr am ei fywyd ar faes y rhyfel, medd ereill, pan y diffygiodd, ac yr ymosododd cawr o wersyll y Philistiaid arno, ac y meddyliodd ei ladd, gan dybied yn sicr ei fod yn ei law ef, ac yn ol pob tebygolrwydd a lwyddasai hefyd, ond fel y rhuthrodd Abisai ar y cawr, ac y lladdodd ef. Dychrynodd gwersyll Israel wedi deall am y perygl y buasai eu brenin ynddo: a thyngodd ei wŷr wrtho, gan ddywedyd, “Nid ai di gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffodd goleuni Israel;” 2 Sam xxi. 17. Cyfansoddwyd hi ar yr achlysur hwnw, medd dysgawdwyr Iuddewig; felly y tybia Patrick, Matthew Henry, ac ereill. Os ar yr achlysur hwnw y cyfansoddwyd y salm, dichon mai yr ymadrodd a ddywedodd ei wŷr wrtho; sef, “Rhag i ti ddiffodd goleuni Israel,” a gyffroai feddwl y Salmydd i ddechreu ei gân â’r ymadrodd “Yr Arglwydd yw fy ngoleuni” — yn awgrym i’w wŷr i edrych heibio iddo ef at Dduw Israel, tad a ffynnon dragywyddol goleuni a bywyd, megys yr oedd efe ei hun yn gwneyd: canys er ei fod yntau yn wir yn oleuni yn Israel, nad oedd er hyny yn ddim amgen na chyfrwng i adlewyrchu y goleuni a dderbyniai oddi wrth Dduw, a hyny am dymmor byr yn unig. Ymeifl ei ffydd yn gadarn yn yr Arglwydd drwy y salm o’i dechreu i’w diwedd, fel ei oleuni, ei iachawdwriaeth, ei nerth, ei Waredydd, a’i bob peth, drwy ei fywyd, yn angeu, ac am byth. Ymgartrefa ei enaid yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd, i’w fwynhau ef fel prif ac unig wrthddrych ei ddymuniad. Sŵn calon wedi ei “hattegu yn ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd,” sydd i’w glywed yn llefaru drwy y salm — profiad uchel iawn yn gynnyrch ffydd gref iawn.

Currently Selected:

Salmau 27: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 27