YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 29

29
SALM XXIX.
M. S.
Salm Dafydd.
1O! moeswch glod i Dduw yn chwyrn,
Chwi feibion cedyrn, codwch;
Ei nerth a’i fawr ogoniant ef
Ag uchel lef datgenwch.
2O! moeswch i’r Goruchaf Fod
Ogoniant clod ei rinwedd;
Addolwch ger ei fron ar frys
Yn nghyssegr lys ei fawredd.
3Llef nerthol Duw a glywir draw
Uwch law y dyfroedd dyfnion,
Rhydd Duw’r gogoniant daran floedd
Oddi ar y dyfroedd mawrion.
4A llef Iehofah sydd mewn nerth,
Ac mewn prydferthwch dwyfol;
5Ei lef a ddryllia’r cedrwydd ban,
Sef cedrwydd Liban oesol.
6Gwna iddynt lamu megys llo,
Liban a Sirion hefyd;
Neu megys llwdn unicorn,
Gan faint eu #29:6 braw.horn disyfyd.
7Gwna llef Iehofah o’i deml lân
I’r fflamau tân wasgaru;
Ei fforchog fellt o’r cwmwl ban
Ant allan gan lewyrchu.
8Gwna llef Iehofah gan ei nerth
I’r anial anferth grynu;
Anialwch Cades drwyddo draw
A fydd dan fraw’n cynnhyrfu.
9Ei daran lef a wna ar frys
I’r ewig ofnus lydnu;
Ac yn ei deml sanctaidd wiw
Pawb unant i’w foliannu.
10Iehofah sydd yn Frenin mawr
Uwch daear lawr, a’i stormydd;
Ac ar ei orsedd ef fel hyn
Sy’n Frenin yn dragywydd.
11Yr Arglwydd wisg ei bobl â nerth,
Yn brydferth o’i drugaredd;
Efe a’u bendithia hwy bob rhai
Yn wastad â’i dangnefedd.
Nodiadau.
“Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw.” Felly yr oedd y Salmydd: gwelai ef law Duw yn mhob peth, a pob digwyddiad. Y mae yn debygol, ac yn fwy na thebygol, mai ar ystorm gref o fellt a tharanau, a gwlaw, y cyfansoddodd efe y gân fywiog ac effeithiol hon. Tra yr oedd ereill o’i amgylch yn crynu gan fraw, fe ddichon, eisteddai ef mewn tawelwch i gyfansoddi mawl‐gân i’r hwn oedd ar y pryd “yn gyru’r mellt i ehedeg, yn hollti’r cedrwydd, ac â’i daranau yn peri i’r mynyddoedd grynu.” Geilw ar y meibion cedyrn, a dybient yn uchel am eu gallu a’u hawdurdod eu hunain, i gydnabod mawredd anfeidrol Iehofah fel llywodraethwr elfenau natur; a dysgu, yn wyneb yr amlygiad o’r mawredd hwnw yn y mellt a’r taranau, pa mor wan a dinerth oedd eu mawredd a’u gallu eu hunain. Ymgysura yn yr ystyriaeth fod yr hwn a lefarai gyda’r fath fawrhydi gogoneddus yn y taranau a’r tymmhestloedd, yn eistedd yn Frenin yn dragywydd ar ei orseddfa yn y nefoedd fry, yn preswylio hefyd ger llaw, ac megys yn gymmydog agos iawn ato, yn ei deml, neu y babell a wnaethai efe iddo; ac yno bob amser, ac yn barod ar bob amgylchiad, i nerthu a bendithio ei bobl. Os oedd y dymmhestl yn gref ac ofnadwy oddi allan, yr oedd hi yn dawelwch a thangnefedd oddi mewn, yn y babell.

Currently Selected:

Salmau 29: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in