YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 30

30
SALM XXX.
2.8.
Salm neu gân o gyssegriad tŷ Dafydd.
1Mawrhaf
Dy enw di, fy Nuw, fy Naf,
Dyrchefaist fi, oedd wan a chlaf;
Ni roddaist i’m gelynion câs
O’m plegid achos llawenhau,
2Gwneist fy iachau o’th dirion ras.
3Tydi,
O’r bedd ddyrchefaist f’enaid i,
Ni syrthiais yn y pydew du;
4O! cenwch, chwi ei saint, i’n Duw,
Can’s sanctaidd yw ei enw mâd,
A mawr yw rhad ein Ceidwad gwiw.
5Ei lid
Ni bydd ond ennyd fer ei hyd,
Daw i ni hedd o’i wyneb pryd;
Fe dderfydd byd ein tristyd du,
Wylofain erys dros brydnawn,
A’r boreu cawn orfoledd cu.
Rhan II.
2.8.
9Pa fudd
Sydd yn fy ngwaed pan syrthiwy’n brudd
I’r bedd dan gysgod angeu ’nghudd?
Pwy yno sydd a draetha’th ddawn?
A fola’r llwch dy enw cu?
Pawb yno sy yn ddistaw iawn.
10Clyw, clyw,
Fy ngweddi — trugarhâ o Dduw;
Bydd i mi ’n gynnorthwywr gwiw;
11Ti dro’ist fy ngalar trwm yn gân,
Diosgaist, do, fy sachwisg wael,
Gwnest i mi gael llawenydd glân.
12Fy nghân
A esgyn megys fflam o dân
I’r nef yn fawl i’th enw glân;
Fy nhafod ddadgan beraidd glôd
I’th ddawn a’th râd, O Arglwydd Dduw!
Tra byddwy’n berchen byw a bod.
Nodiadau.
Cân ar gyssegriad tŷ Dafydd, medd ei theitl, yw y salm hon:— y tŷ cedrwydd a adeiladasai yn frenhindy iddo ei hun ar fynydd Seion. Mynai ef i sain mawl a chlodforedd gael ei glywed yn gyntaf oll yn ei dŷ newydd, ac i barhau yno yn wastadol. Ond nid oes yn y salm un cyfeiriad eglur at yr achlysur a enwir yn ei theitl; ond rhydd le da i gasglu fod Dafydd wedi ei waredu o ryw berygl mawr — o gystudd trwm, fe ymddengys, a’i gwasgasai i borth angeu; a’i adferiad o’r cystudd hwnw, yw testyn arbenig y salm. Y tebygolrwydd ydyw, mai ar ei adferiad o’r cystudd hwnw yr ymfudodd efe i’w dŷ newydd; ac ni allasai, gan hyny, fod dim mor briodol a chyfaddas ar gyssegriad ei dŷ newydd a chân newydd o fawl am arbediad bywyd, ac adferiad iechyd perchenog y tŷ; yr hwn, ychydig amser cyn hyny, yr ymddangosai yn fwy tebygol y buasai iddo ddisgyn i’r bedd, nag y cawsai fyned byth i’w dŷ newydd. Cyssegra llawer eu tai newyddion megys i wasanaeth llygredigaeth, â chaniadau gwammal, ac â difyrwch ofer; ond cyssegrai y brenin Dafydd ei lys newydd i Dduw mewn caniadau mawl a gweddi.
Traetha yn mlaenaf ei ddiolchgarwch gwresog i’r Arglwydd am arbediad ei fywyd, ac adferiad ei iechyd, fel na chafodd ei elynion, y Cenhedloedd o amgylch, lawenhau o’i blegid, y rhai na allasai dim fod yn fwy dymunol ganddynt na chlywed am ei farwolaeth. Cawsai yr adferiad hwn hefyd mewn attebiad i’w weddi; yr hyn a barai fod y fendith yn werthfawrocach fyth yn ei olwg, ac a’i gwnelai yn fwy diolchgar am dani. Adduneda gyssegru y bywyd a arbedasid, a’r iechyd a adferasid iddo, i draethu gwirionedd a chlodfori enw Duw yn dragywydd.

Currently Selected:

Salmau 30: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in