YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 31

31
SALM XXXI.
8.7.3.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Arglwydd, ymddiriedais ynot;
Na’m gw’radwydder: ti, o’th lys,
2Gostwng ataf glust i’m gwrandaw,
Cynnorthwya fi ar frys:
’Rwyf yn wan, dal fi i’r lan,
Bydd dy hunan ar fy rhan.
3Can’s fy nghraig a’m hamddiffynfa
Gadarn, Arglwydd, ydwyt ti;
Ac, gan hyny, er mwyn d’ enw,
Cadw, tywys, arwain fi:
4Tyn dy was, trwy dy ras,
O holl faglau ’r gelyn cas.
5I dy law gorch’mynaf f’ysbryd,
Ti ’m gwaredaist, Arglwydd Dduw;
6Cas yw genyf bawb a ddaliant
Ar oferedd gwagedd gwyw:
Ynot ti, Arglwydd cu,
’N wastad y gobeithiaf fi.
7Llawenhâf ac ymhyfrydaf
Yn dy hen drugaredd gu;
Gwelaist f’ adfyd, adnabuost
F’ enaid mewn cyfyngder du:
8Ni chadd grym gelyn llym
Lwyddo yn fy erbyn ddim.
Rhan II.
8.7.3.
9Trugarhâ, mae ’n gyfyng arnaf —
’Rwy’n dadwino, ’rwy’n gwanhau;
10Mae fy ysbryd, mae fy mynwes,
Mae fy nghalon yn llesghau:
Gofid sydd, nos a dydd,
Yn gwneyd im’ och’neidio’n brudd.
Ochain am fy anwireddau,
Drwy’r blynyddau, ’rwyf o hyd;
Pallai’m nerth, fy esgyrn hefyd,
A bydrasant oll i gyd:
Trugarhâ, Arglwydd da,
Ac iachâ fi, druan cla’!
11Gwarthrudd wyf i’m holl elynion,
A’m cym’dogion ar bob llaw;
Dychryn i’r rhai a’m hadwaenant,
Ciliant oll oddi wrthyf draw:
12Gwael yw’m gwedd, ddyn dihêdd,
Fel un marw yn ei fedd.
13Clywais ogan brwnt llaweroedd,
Ymgynghorant hwy ynghyd,
Gan fwriadu ’m dieneidio;
Yn nghynddaredd llym eu llid:
14Ond myfi, ynot ti,
O fy Nuw! fy ngobaith sy.
Dywedais mai fy Nuw i ydwyt,
15Mae f’ amserau yn dy law,
Gwared fi o law ’m gelynion,
Sydd yn peri i mi fraw:
16Gwên dy ras, rho i’th was,
Sydd fel gwin pereiddia’i flas.
Rhan III.
8.7.3.
17-18Na’m gw’radwydder, canys gelwais
Ar dy enw, Arglwydd mawr;
Gwaradwydder fy ngelynion,
Torer hwy yn llwyr i lawr:
Yn y bedd, cuddia ’u gwedd,
Felly minnau a gaf hedd.
Y rhai dd’wedant eiriau celyd,
I ddiystyru ’r cyfiawn rai,
Gwarth a gw’radwydd a’u gorchuddio
’N daledigaeth am eu bai:
Syrthiont hwy dan eu clwy,
Fel darfyddo am danynt mwy.
19Rhoist oludoedd o fendithion
A daioni ’nghadw ’nghudd;
Fel y caffo’r sawl a’th ofnant,
Eu mwynhau yn llawn ryw ddydd:
Pan y dêl, yn ddigêl,
Meibion dynion oll a’i gwêl.
20Cuddi hwy ’n nirgelfa ’th wyneb,
Rhag balchineb gwŷr di‐ras;
Cuddi hwy mewn pabell dawel,
Rhag cynhenau ’r tafod câs:
Cuddi hwy, ni chânt mwy,
Deimlo niwed byth na chlwy.
Rhan IV.
8.7.3.
21Bendigedig fyddo ’r Arglwydd,
Rhyfedd y dangosodd ef,
Garedigrwydd im’ pan oeddwn
Wedi ’m cau mewn dinas gref:
22Yn fy nghri, gwaeddais i —
Bwriwyd fi o’th olwg di.
Ond er hyny ti wrandewaist
Pan ddyrchefais atat lef;
23Chwi, holl saint yr Arglwydd, cenwch
Cenwch, a chlodforwch ef:
Ceidw Duw, cadarn yw,
Ei ffyddloniaid oll yn fyw.
Ef a dâl i’r rhai wna falchder,
Yn ehelaeth; 24ond y rhai
A obeithiwch yn yr Arglwydd,
Ymwrolwch, gwna ’ch cryfhau:
Dyrchwch lef, hyd y nef,
Molwch oll ei enw ef.
Nodiadau.
Y mae cŵynion trymion, ymbiliau taerion, a diolchiadau gwresog, megys yn gymmhlethedig â’u gilydd yn y salm hon:— cŵynion o herwydd rhyw drallod mawr, ymbiliau am ymwared o’r trallod hwnw; a mawl a diolch am yr ymwared wedi ei gael. Y mae trallod yn fendithiol i’r enaid, pan y mae yn ei ddwyn i weddïo; ac y mae ymwared o drallod yn dwyn ei ffrwyth priodol, pan y mae yr hwn a waredwyd yn dychwelyd i dalu diolch i’w waredydd. Y mae llawer mewn trallod nad ydynt byth yn gweddïo; ac ereill a weddïant yn nydd eu trallod, ac anghofiant ddiolch ar ol cael eu gwaredu o hono. Ond y mae holl gŵynion ac ymbiliau y Salmydd yn hon, a’i salmau ereill ef, yn troi yn fawl a diolch wedi iddo gael ei waredu.
Wedi iddo gael ei waredu o law Saul yn anialwch Mahon (1 Sam xxiii. 26-29), lle y bu mewn enbydrwydd mawr am ei einioes, y cyfansoddodd efe y salm hon, fe dybir. Yr oedd Saul a’i wŷr wedi ei amgylchynu y tro hwnw, fel yr ymddangosai braidd yn ammhossibl iddo ddiangc; ond daeth cenad at Saul yn hysbysu fod y Philistiaid wedi ymdaenu ar hyd y wlad i’w hanrheithio, fel y bu raid iddo adael Dafydd, a myned yn erbyn y gelynion hyny.
Ag ymadrodd o’r salm hon y cyflwynodd y Gwaredwr ei hun i ddwylaw ei Dad wrth drengu ar y groes:— “I’th ddwylaw di, y gorchymynaf fy ysbryd.”

Currently Selected:

Salmau 31: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 31